Content-Length: 106426 | pFad | http://cy.wikipedia.org/wiki/Catalydd

Catalysis - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Catalysis

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Catalydd)
Catalysis
Enghraifft o:molecular function Edit this on Wikidata
Mathadwaith cemegol, molecular function Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscatalyst Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Proffil egni gyda chatalydd (ensym) a heb gatalydd.

Mewn Cemeg a Bioleg, catalysis yw'r cyflymiad (cynnydd mewn cyfradd) o adwaith gemegol gan sylwedd ag elwir yn gatalydd. Nid yw catalyddion yn cael eu treulio yn ystod yr adwaith.[1] O ganlyniad i hyn, dim ond niferoedd bach o gatalydd sydd ei angen i gynyddu cyfradd adwaith.[2]

Yn gyffredinol, mae catalydd yn cynyddu cyfradd adwaith cemegol drwy gynnig llwybr amgen sy'n mynd o'r adweithyddion i'r cynhyrchion. Mae'r llwybr amgen hon yn meddu ar egni actifadu is o gymharu â'r llwybr heb gatalydd.[3] Yn ystod mecanwaith cemegol sy'n defnyddio catalydd, mae'r catalydd yn adweithio i ffurfio rhyngolyn dros dro, sydd wedyn yn cael ei adnewyddi yn ôl i'w ffurf cyn yr adwaith, sy'n sefydlu proses cylchol. Ceir tri phrif gategori o gatalydd, sef catalydd homogenaidd, heterogenaidd, a biolegol. Mae catalydd homogenaidd yn yr un cyflwr mater a'r adweithyddion, er enghraifft, system ble mae'r adweithyddion a'r catalydd mewn cyflwr hylif. Mae catalydd heterogenaidd yn bodoli mewn cyflwr mater gwahanol i'r adweithyddion, sy'n gan aml yn adweithyddion hylif neu nwy sydd wedi'u harsugno i arwyneb catalydd cyflwr solid. Y categori olaf yw catalyddion biolegol, sef Ensymau.

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Mae tua 90% o brosesau masnachol cemegol yn defnyddio catalydd ac mae rhan fwyaf o brosesau biolegol hefyd yn digwydd drwy ddefnyddio ensymau, sef catalydd biolegol. [4] Mae gwaith ymchwil sy'n astudio catalyddion yn faes eang o wyddoniaeth, sy'n cyfuno dulliau a gwybodaeth o sawl maes, megis cemeg a gwyddorau defnyddiau. Mae catalysis hefyd yn egwyddor sylfaenol yng nghemeg gwyrdd a chynaliadwy. Yn fras, mae'r lleihad o egni mewn adwaith sy'n defnyddio catalydd yn fuddiol oherwydd yr oblygiadau mae defnyddio llai o egni yn cael ar yr amgylchedd. Yn ogystal â hyn, mae adweithiau catalytig yn llesol o gymharu gydag adweithiau stoichiometreg (h.y. adwaith sy'n treulio bod adweithyddion) oherwydd y gostyngiad o wastraff cemegol, sy'n ganlyniad o allu catalydd i ffafrio cynnyrch penodol (detholedd) a'r gallu i ailgylchu'r catalydd drwy berthynas cylchol y mecanwaith catalytig. O ganlyniad i hyn mae'r defnydd o gatalysis yn rhan o 12 egwyddor cemeg gwyrdd. Yn ogystal â'r priodweddau sylfaenol, mae'r defnydd o gatalyddion yn rhan bwysig o ddarganfod tanwyddau adnewyddadwy newydd, gan mae'r gostyngiad egniol ym mhrosesau catalytig a'r detholedd yn galluogi'r ffurfiad o gynhyrchion newydd, a'r addasiad o brosesau i ffurfio gynhyrchion penodol.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Nič, Miloslav; Jirát, Jiří; Košata, Bedřich et al., eds. (2009-06-12), "catalyst" (yn en), IUPAC Compendium of Chemical Terminology (IUPAC), doi:10.1351/goldbook.c00876, ISBN 978-0-9678550-9-7, http://goldbook.iupac.org/C00876.html, adalwyd 2020-06-22
  2. "7 things you may not know about catalysis | Argonne National Laboratory". www.anl.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-22.
  3. Laidler, Keith J. (Keith James), 1916-2003. (2003). Physical chemistry. Meiser, John H., Sanctuary, Bryan C. (arg. 4th ed). Boston: Houghton Mifflin. ISBN 0-618-12341-5. OCLC 48123294.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  4. "Recognizing the Best in Innovation: Breakthrough Catalyst". R&D Magazine: 20. Medi 2005.
Eginyn erthygl sydd uchod am gemeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: http://cy.wikipedia.org/wiki/Catalydd

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy