Y Forwyn Fair
Y Forwyn Fair | |
---|---|
Ganwyd | 1 g CC Tzippori, Jeriwsalem |
Bu farw | 1 g, 48 Unknown |
Man preswyl | Nasareth |
Dinasyddiaeth | Unknown |
Dydd gŵyl | 15 Awst |
Tad | Joachim |
Mam | Ann |
Priod | Joseff |
Plant | Iesu |
Perthnasau | Elisabeth, Ioan Fedyddiwr |
Llinach | y Teulu Sanctaidd |
Yn ôl y Testament Newydd, roedd Mair (a elwir hefyd yn Santes Fair neu'r Forwyn Fair) yn fam i Iesu Grist. Roedd hi'n briod â Sant Ioseff ac, yn ôl ffynonellau llai derbynnol, yn ferch i'r saint Joachim ac Ann. Mae efengyl Luc yn adrodd sut y dysgodd Mair, a oedd yn forwyn (gwyryf) ar y pryd, gan yr archangel Gabriel, negesydd oddi wrth Dduw, ei bod hi'n mynd i roi genedigaeth wyrthiol i Iesu Grist, Mab Duw.
Anrhydeddir y Santes Fair yn bennaf yn yr Eglwys Gatholig, ac o fewn yr eglwys honno credir iddi gael ei llenwi â gras Duw ers ei genedigaeth (nid yw'r athrawiaeth hon yn golygu, fel mae rhai wedi ei dehongli, bod Mair hithau wedi cael ei geni yn wyryfol). Athrawiaeth ganolog arall i Gristnogaeth Catholig yw'r Dyrchafiad, hynny yw, bod corff Mair wedi codi i'r nefoedd wedi ei marwolaeth. Anrhydeddir hi hefyd o fewn Islam; ceir mwy am fywyd Mair yn y Coran nac yn y Testament Newydd.
Yn symbolaidd mae'r Forwyn Fair yn cael ei chyfelybu i Arch y Cyfamod yn y traddodiad liturgiaidd Cristnogol, am ei fod wedi dwyn Crist i'r byd i roi Cyfamod newydd.
Yn ôl traddodiad treuliodd ddyddiau olaf ei hoes mewn tŷ ger Effesus (de-orllewin Twrci) a bu farw yno. Creda Catholigion bod ei thŷ yn Nasareth wedi hedfan oddi ar ei safle wreiddiol i dref Loreto yn yr Eidal ym 1294. Dyma'r unig safle sy'n gysylltiedig â bywyd Mair drwy Ewrop ac felly y mae yn safle boblogaidd am bererindodau.