Content-Length: 88373 | pFad | http://cy.wikipedia.org/wiki/Y_Crynwyr

Crynwyr - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Crynwyr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Y Crynwyr)
George Fox

Mae'r Crynwyr, neu Gymdeithas Grefyddol Cyfeillion, yn enwad Cristnogol a sefydlwyd yn Lloegr yn yr 17g. "Offeiriadaeth pob crediniwr" (Saesneg: (Priesthood of all believers) yw cred bwysicaf y Crynwyr. Mae heddychaeth hefyd yn bwysig iawn iddynt.

Yn yr 17g, torrodd rhai pobl i ffwrdd oddi wrth yr Eglwys Anglicanaidd gan gynnwys: George Fox, James Naylor, Margaret Fell a Francis Howgill. Roeddent yn rhoi'r pwyslais ar brofiad personol yr unigolyn o Grist, wedi'i lywio gan y Beibl. Ymledodd Crynwriaeth i Gymru yn yr 17g. Bu Crynwyr Cymreig, yn enwedig o ardaloedd Meirionnydd a Maldwyn, ymhlith y nifer sylweddol o Grynwyr a ymfudodd i dalaith Pennsylvania yng ngogledd America (UDA heddiw) i ddianc erledigaeth a cheisio bywyd newydd.

Mae llawer o Crynwyr yn Affrica, Asia, UDA yn Gristnogion efengylaidd. Heddiw, mae'r rhan fwyaf o Grynwyr yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn Gristnogion rhyddfrydol. Mae rhai ohonyn nhw wedi cael eu dylanwadu gan "ddiwinyddiaeth sancteiddrwydd" John Wesley. Heddiw, ceir ychydig o Grynwyr sy'n anffyddiwr neu'n agnostig.

Gwasanaeth arferol yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Mae rhai'n addoli mewn gwasanaeth cydlynol gyda weinidog, emynau a phregeth. Gelwir hyn yn addoli bugeiliol, ac mae'n boblogaidd iawn yn UDA, Cenia a gwledydd eraill, ond mae'n anghyffredin yng Nghymru. Mae Crynwyr eraill yn addoli mewn cyfarfodydd gyda rhaglen benodol sydd yn bennaf yn fyfyrdod tawel. Gelwir hyn yn "aros addoli". Aros addoli yw'r ffurf arferol o addoliad ar gyfer Crynwyr Cymreig. Yn y cyfarfodydd hyn nid oes cynllun wedi'i baratoi ymlaen llaw o sut y bydd y cyfarfod yn mynd yn ei flaen. Cred y Crynwyr y bydd Duw yn cynllunio beth fydd yn digwydd nesaf.

Ddisgrifir George Fox, sylfaenydd Crynwriaeth, fel "Crist wedi dod i addysgu ei bobl ei hun". Cred y Crynwyr fod Iesu Grist yn bresennol yn y cyfarfod gyda nhw. Pan fydd y Crynwyr yn teimlo bod yr Ysbryd Glân yn dweud wrthynt i siarad, bydd ef neu hi yn sefyll ar ei draed ac yn rhannu neges gyda'r holl gynulleidfa. Credant nad yw'r person ei hun siarad, ond bod yr Ysbryd Glân yn cael ei siarad drwyddynt. Ar ôl y siarad, ceir tawelwch cyn i'r person nesaf siarad. Weithiau bydd y cyfarfod yn gwbl dawel, weithiau mae llawer o bobl yn siarad.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: http://cy.wikipedia.org/wiki/Y_Crynwyr

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy