Afon Wyre (Ceredigion)
Gwedd
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.3059°N 4.1619°W |
Afon yng nghanolbarth Ceredigion yw afon Wyre. Mae'n tarddu ar lethrau Mynydd Bach uwchben pentref Lledrod, ac yn llifo tua'r gorllewin ychydig i'r gogledd o'r pentref. Llifa drwy bentref Llangwyryfon ac ar hyd Cwm Wyre. Gerllaw Llanrhystud mae afon Wyre Fach yn ymuno â hi ac yn fuan wedyn mae'n llifo i Fae Ceredigion.