Apache
Enghraifft o: | pobloedd brodorol, grŵp ethnig |
---|---|
Math | pobloedd brodorol yr Amerig |
Mamiaith | Southern athabaskan, saesneg |
Poblogaeth | 111,810 |
Crefydd | Native american church, siamanaeth, cristnogaeth |
Yn cynnwys | Western Apache, Chiricahua, Jicarilla Apache, Plains Apache, Lipan Apache people, Mescalero |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Mae'r erthygl yma yn trafod y grwp ethnig Apache. Am ystyron eraill, gweler Apache (gwahaniaethu)
Apache yw'r gair a ddefnyddir am nifer o grwpiau ethnig cysylltiedig sy'n frodorol i dde-orllewin yr Unol Daleithiau. Maent yn grwpiau sy'n siarad iaith Dde Athabasgaidd neu "Apacheaidd". Nid yw'r term fel y defnyddir ef heddiw yn cynnwys y Nafacho (Navaho), er eu bod hwythau'n siarad iaith debyg ac yn cael eu hystyried yn bobl Apacheaidd. Mae'n bosibl fod y gair Apache yn dod o'r Sbaeneg. Cofnodir ef gyntaf gan Juan de Oñate yn 1598, ond nis gwyddir beth oedd ei darddiad. Mae eraill yn cynnig ei fod yn tarddu o'r gair Zuni apachu ('gelyn') neu o'r gair Yuman e-patch ('dyn'). Geilw yr Apacheiaid eu hunain yn N'De neu Déné, sef "Y Bobl". Rhennir yr Apache yn:
- Apache Gorllewinol
- Chiricahua
- Mescalero
- Jicarilla
- Lipan
- Apache y Gwastadeddau (gynt y Kiowa-Apache).
Ceir hwy yn byw yn nhaleithiau Arizona, Mecsico Newydd, Oklahoma a Texas.
Bu llawer o ymladd rhwng yr Apache a'r Sbaenwyr, Mecsicaniaid a'r Unol Daleithiau, a daethant yn adnabyddus fel ymladdwyr ffyrnig a galluog. Ymhlith yr enwocaf o'r harweinwyr oedd Mangas Coloradas, Cochise, Victorio a Geronimo. Dan arweiniad Geronimo, grŵp bychan o Apache Chiricahua oedd yr Indiaid olaf i ymostwng i reolaeth llywodraeth yr Unol Daleithiau, ar ddiwedd y Rhyfeloedd Apache yn 1886.
Apache enwog
[golygu | golygu cod]- Cochise, pennaeth Apache Chiricahua
- Mangas Coloradas, pennaeth Apache
- Loco, pennaeth Apache
- Taza, pennaeth Apache
- Nana, pennaeth Apache
- Chihuahua, pennaeth Apache
- Geronimo, arweinydd Apache
- Naiche, pennaeth Apache
- Victorio, pennaeth Apache
- Lozen, rhyfelwraig, chwaer Victorio
- Chatto, sgowt Apache
- Jay Tavare, actor
- Raoul Trujillo, actor a dawnsiwr
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- David Roberts, Once they moved like the wind: Cochise, Geronimo and the Apache Wars (Simon & Schuster, 1994; argraffiad newydd, Pimlico, 1998)