Awyr Cymru
Math | cwmni hedfan |
---|---|
Sefydlwyd | 1997 |
Daeth i ben | 23 Ebrill 2006 |
Pencadlys | Maes Awyr Caerdydd |
Gwefan | http://www.airwales.co.uk |
Defnyddiwyd yr enw Awyr Cymru (Saesneg: Air Wales) gan ddau gwmni hedfan. Lansiwyd y cyntaf ar 6 Rhagfyr 1977 er mwyn teithio yn ôl ac ymlaen o Faes Awyr Caerdydd, Y Rhws i Faes Awyr Penarlâg yn Sir y Fflint. Arferai'r cwmni hedfan o Gaerdydd (a chyn hynny o Abertawe a Phen-bre) i nifer o faesydd awyr yn y Deyrnas Unedig, Iwerddon a Ffrainc. Daeth i ben wedi gwasanaeth o ddeunaw mis.[1]
Roedd yr ail gwmni yn gwmni hollol annibynnol, heb unrhyw gysylltiad gyda'r cyntaf. Yr un oedd ei leoliad, sef Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, ond dim ond y tu fewn i wledydd Prydain roedd yn hedfan. Daeth i ben ar 23 Ebrill 2006 "oherwydd costau cynyddol" a "chystadleuaeth ffyrnig" gan gwmniau enfawr.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "BBC news:Wales:Airline to end scheduled flights". Gwefan y BBC. BBC. 2006-03-23. Cyrchwyd 2010-03-02.