Content-Length: 82144 | pFad | https://cy.wikipedia.org/wiki/Camsefyll

Camsefyll - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Camsefyll

Oddi ar Wicipedia
Camsefyll
Mathrheol chwaraeon Edit this on Wikidata

Mae camsefyll yn rheol a ddefnyddir gan nifer o wahanol chwaraeon tîm sy'n rheoleiddio agweddau ar leoliad chwaraewyr. Fe’i defnyddir yn arbennig mewn chwaraeon maes gyda rheolau’n deillio o’r codau amrywiol pêl-droed megis pêl-droed ei hun, rygbi’r undeb a rygbi’r gynghrair, ac mewn chwaraeon ‘ffon a phêl’ tebyg i hoci iâ, hoci, a bandi. Diffinir fel "bod mewn safle ar gae chwarae (rygbi, pêl-droed, hoci ag ati) lle na chaniateir chwarae’r bêl."[1]

Pwrpas rheolau camsefyll

[golygu | golygu cod]
Mae'r blaenwr glas ar ochr chwith y diagram mewn safle camsefyll gan ei fod o flaen yr amddiffynnwr ail i'r olaf (wedi'i farcio gan y llinell ddotiog) a'r bêl. Sylwch nad yw hyn o reidrwydd yn golygu eu bod yn cyflawni trosedd camsefyll

Yn gyffredinol, mae rheolau camsefyll wedi'u cynllunio i sicrhau bod chwaraewyr yn chwarae gyda'i gilydd fel tîm, ac nid ydynt yn gosod un neu ychydig o chwaraewyr yn gyson wrth ymyl gôl y gwrthwynebydd ('goalhanging') i geisio derbyn pasiad am gôl hawdd heb wrthwynebwyr o'r tîm arall gerllaw. Fodd bynnag, gall gweithredu a gorfodi rheolau camsefyll fod yn gymhleth, ac weithiau gall fod yn ddryslyd i chwaraewyr newydd yn ogystal ag i wylwyr.[2]

Mae rheolau camsefyll yn dyddio'n ôl i godau pêl-droed a ddatblygwyd yn ysgolion preifat Lloegr ar ddechrau'r 19g. Roedd y rheolau camsefyll hyn yn aml yn llawer llymach nag mewn gemau modern. Mewn rhai ohonyn nhw, roedd chwaraewr "yn camsefyll" pe bai'n sefyll o flaen y bêl yn unig. Roedd hyn yn debyg i’r gyfraith camsefyll bresennol ym myd rygbi, sy’n cosbi unrhyw chwaraewr rhwng y bêl a gôl y gwrthwynebydd. Mewn cyferbyniad, nid oedd gan Reolau Sheffield pêl-droed wreiddiol unrhyw reol camsefyll, ac roedd chwaraewyr o'r enw "cic drwodd" wedi'u lleoli'n barhaol ger gôl y gwrthwynebwyr.[2]

'Camsefyll' yn Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Cofnodir y gair 'camsefyll' yn y Gymraeg yn y Geiriadur Mawr yn 1958, ond dichon y bu iddo gael ei defnyddio cyn hynny. Noda Alun Williams yn y llyfr o'r un enw, "Byddwn yn clywed termau fel bachwr, asgellwr, cam-sefyll ac ochrgamu yn dod mor hawdd."[3]

Chwaraeon sydd â'r Rheol Camsefyll

[golygu | golygu cod]

Chwaraeon sydd heb Rheol Camsefyll

[golygu | golygu cod]

Podlediad Camsefyll Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Ceir podlediad Cymraeg ar bêl-droed o'r enw Camsefyll.[4]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Camsefyll". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2024.
  2. 2.0 2.1 Olympics.com: Offside rule
  3. "Camsefyll". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 20 Tachwedd 2024.
  4. "Camsefyll". Y Pod. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2024.








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Camsefyll

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy