Gerddi Botanegol Birmingham
Math | gardd fotaneg |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Edgbaston |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 3.81 ha |
Cyfesurynnau | 52.4665°N 1.9293°W |
Cod OS | SP0485385400 |
Statws treftadaeth | parc rhestredig neu ardd restredig Gradd II* |
Manylion | |
Gardd fotaneg yn ardal Edgbaston, Birmingham, Gorllewin Canolbarth Lloegr yw Gerddi Botanegol Birmingham. Lleolir y gerddi tua 1½ milltir (2.4 km) i'r de-orllewin o ganol dinas Birmingham.
Fe'u dyluniwyd yn 1829 gan y botanegwr a garddluniwr John Claudius Loudon. Mae'r safle'n cynnwys amrywiaeth eang o blanhigion yn ei 15 erw (6 hectar), ynghyd â phedwar tŷ gwydr mawr (sef tŷ gwydr trofannol, tŷ gwydr isdrofannol, tŷ gwydr canoldirol a tŷ gwydr cras). Mae yna hefyd dŷ alpaidd a thŷ glöynnod byw. Cyn 2024 roedd adardy hefyd.
Rheolir y gerddi gan Gymdeithas Fotaneg a Garddwriaethol Birmingham, sy'n elusen gofrestredig. Mae'r gerddi ar agor yn ddyddiol i'r cyhoedd gyda mynediad â thâl.