Hen Oes y Cerrig Uchaf
Mae Hen Oes y Cerrig Uchaf neu ar lafar Paleo Uchaf (Saesneg: (Upper Paleolithic)) yn rhaniad amser oddi fewn i gyfnod Hen Oes y Cerrig: y rhaniad olaf o dri, ac yn rhychwantu'r cyfnod rhwng 50,000-10,000 cyn y presennol (CP). Mae'n dilyn Hen Oes y Cerrig Canol ac yn rhagflaenu Oes ddiweddar yr Efydd pan ddechreuodd dyn drin y tir ac amaethu a chodwyd teml Göbekli Tepe yn Nhwrci.
Tua 50,000 CP, gwelwyd newid sylweddol yn yr amrywiaeth o offer llaw ac arteffactau eraill. Am y tro cyntaf yn Affrica, lle hannodd dyn, gwelwyd arteffactau a'r celf cyntaf yn ymddangos e.e. taflegrau bychan, miniog, offer ysgythru, llafnau miniog ac offer drilio a thyllu. Un o'r mannau pwysicaf yw Ogof Blombos yn Ne Affrica. Roedd pwrpas gwahanol ac unigryw i bob twlsyn a gwelwyd pwysigrwydd callestr. Rhwng 45,000 a 43,000 ymledodd y dechnoleg offer yma drwy Ewrop a gwelwyd cynnydd dybryd yn nifer y bobloedd; mae'n gwbwl bosib mai dyma a achosodd i nifer y Neanderthaliaid yn y cyfnod hwn ostwng yn sylweddol. Enw arall ar bobl yr Oes hon oedd y Cro-Magnon ac mae'r dystiolaeth ohonynt i'w gael mewn marciau ac mewn offer soffistigedig megis asgwrn, ifori, corn, paentiadau mewn ogofâu a cherfluniau bychan o bobl.[1][2][3] Hela carw oedd y gwaith pwysicaf, a helwyr a physgotwyr oedd mwyafrif y bobl.
Yn y cyfnod hwn, darganfuwyd 27 claddfa drwy Ewrop, lle lliwiwyd esgyrn dynol, ac un o'r rhai pwysicaf ydy Ogof Paviland ym Mhenrhyn Gŵyr lle defnyddiwyd ocr coch.
Yng Nghymru
[golygu | golygu cod]Bu Ogof Paviland yn gartref i bobl yn ystod Hen Oes y Cerrig Uchaf: tua 26,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Mae'n adnabyddus fel y man lle darganfuwyd sgerbwd "Arglwyddes Goch Pen-y-Fai", y ffosil dynol cyntaf i'w darganfod (1823). Caiff yr ogof hefyd ei hystyried fel yr ogof "gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Paleo Uchaf Cynnar) yn Ynys Prydain",[4] oherwydd natur defodol y claddu. Prin fod unrhyw dystiolaeth o fywyd yr adeg yma drwy ynys Prydain ar wahân i Ogof Paviland. Er fod olion eraill ledled Prydain o fywyd, dyma bron yr unig un y gellir ei ddyddio'n bendant drwy ddyddio carbon.
Yn Ogof Kendrick ar Ben y Gogarth ceir olion naddu ar asgwrn gên ceffyl ac ar ddannedd gwartheg gwyllt a cheirw a gellir dyddio rhain i ddiwedd Hen Oes y Cerrig Uchaf: 10,000 CP. Galwyd yr ogof ar ôl yr archaeolegydd a'i darganfuodd: Thomas Kendrick.[5] Ceir ocr coch ar rai o'r rhain, hefyd. Dywed Jill Cook a Roger Jacobi o'r Amgueddfa Brydeinig: Mae'r darganfyddiad yma heb ei debyg drwy Ewrop gyfan.
Diwedd y cyfnod: Göbekli Tepe
[golygu | golygu cod]Un o'r darganfyddiadau pwysicaf tua diwedd y cyfnod yma yw teml Göbekli Tepe yn Nhwrci, sy'n dyddio i 8,000-10,000 o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[6] Saif y safle hwn oddeutu 12 km (7 milltir) i'r de-ddwyrain o ddinas Şanlıurfa ac mae'n bosibl i'r safle hwn gael ei ddefnyddio ar gyfer defodau crefyddol rhwng 8C CP a 10C CP. Mae pwrpas y noddfa hwn yn ddirgelwch llwyr. Mae Göbekli Tepe yn unigryw ac yn llawn cwestiynau nad oedent, yn 2016, wedi eu hateb. Yn eu plith mae'r cwestiwn pam y llanwyd y safle cyfan gyda phridd ar ddiwedd yr ail gyfnod, fel ymgais i'w guddio. Mae llawer o anifeiliaid hefyd wedi eu cerfio ar y maeni, y rhan fwyaf ohonynt yn anifeiliaid hela ee llew, baedd gwyllt ac adar. Cwestiwn arall yw pam nad oes olion bywyd yma, a ble felly roedd y trigolion yn byw? Oherwydd fod y safle hwn mor wahanol i bob safle arall, gall yr atebion i'r cwestiynau hyn newid ein dealltwriaeth o'r cyfnod pwysig hwn yn natblygiad dyn a chymdeithas a'r modd y trodd yr heliwr-gasglwr yn ffarmwr.
Amcangyfrifir y byddai poblogaeth Cymru yn y cyfnod hwn oddeutu mil neu ar y mwyaf dwy fil.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Biological origens of modern human behavior part3
- ↑ Biological origens of modern human behavior part 1
- ↑ "'Modern' Behavior Began 40,000 Years Ago In Africa", Science Daily, Gorffennaf 1998
- ↑ Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 19. Mae'r gyfrol yma'n datgan mai ogof Paviland yw'r "ogof gyfoethocaf o'r cyfnod hwn (Hen Oes y Cerrig Uchaf) yn Ynys Prydain" Gweler hefyd tud 20: The burial represents a single event in the history of this cave, but such an event is rare even on a European scale.
- ↑ Jill Cook a Roger Jacobi o'r Amgueddfa Brydeinig. Gweler: Prehistoric Wales gan Frances Lynch et al. Sutton Publishing Ltd; 2000; tud. 21
- ↑ "Göbekli Tepe". Forvo Pronunciation Dictionary.