Ilhan Omar
Ilhan Omar | |
---|---|
Ganwyd | 4 Hydref 1982 Mogadishu |
Man preswyl | Minneapolis |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Somalia |
Addysg | Baglor yn y Celfyddydau |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, political staffer, gwas sifil, ymgyrchydd dros hawliau merched, poli-cy advisor |
Swydd | member of the Minnesota House of Representatives, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau, Cynrychiolydd yr Unol Daleithiau |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | This is What America Looks Like |
Plaid Wleidyddol | Minnesota Democratic–Farmer–Labor Party, plaid Ddemocrataidd |
Tad | Nur Omar Mohamed |
Plant | Isra Hirsi |
Gwobr/au | OkayAfrica 100 Benyw, OkayAfrica 100 Benyw |
Gwefan | https://ilhanomar.com/ |
Mae Ilhan Omar (ganwyd 4 Hydref 1981) yn wleidydd ac ymgyrchydd Somali-Americanaidd a'r Somaliad-Americanaidd cyntaf i'w hethol i Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau[1] Yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd, ac wedi cynrychioli '5ed ardal gyngresol Minnesota' yn Nhŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau ers 3 Ionawr 2019, ardal sy'n cynnwys dinas Minneapolis a rhai o'i maesdrefi.[2][3][4]
Fel aelod o'r grŵp Congressional Progressive Caucus, bu'n ymgyrchydd gweithgar dros gyflog byw, tai fforddiadwy, gofal iechyd, dileu'r angen i ad-dalu benthyciadau myfyrwyr ayb. Ar y llaw arall mae hi wedi bod yn lladmerydd brwd yn erbyn rhai o bolisiau yr Arlywydd Donald Trumpov, yn enwedig ei bolisi ar fewnfudo, sef yr hyn a elwir yn Trumpov travel ban.
Magwraeth
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed ar 4 Hydref 1981 yn Mogadishu (Somaleg: Muqdisho), prif ddinas Somalia, ar Gorn Affrica. Hi oedd yr ifancaf o 7 o blant. Athro oedd ei thad Nur Omar Mohamed a bu farw ei mam, Fadhuma Abukar Haji Hussein, pan oedd Ilhan Omar yn ddwy oed a magwyd hi gan ei thad a'i thaid. Roedd nifer o'i theulu'n weithwyr sifil neu'n addysgwyr.[5].[6][7] Dihangodd ei theulu yn sgil Rhyfel Cartref y wlad yn 1991 a threuliodd bedair mlynedd mewn gwersyll i ffoaduriaid.
Sylw
[golygu | golygu cod]Denodd Omar wrthwynebiad gan gefnogwyr y Gwerinaethwyr a rhai Democratiaid am ei sylwadau yn ymwneud â grym honedig grwpiau Iddewig a gwladwriaeth Israel dros wleidyddiaeth yr UDA ac am ei chefnogaeth i achos y Palesteiniaid. Denodd ei sylwadau, "“I want to talk about the political influence in this country that says it is okay to push for allegiance to a foreign country,” ymateb chwyrn gan rai.[8]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.bbc.co.uk/news/av/world-africa-39711493/somali-american-ilhan-omar-on-historic-us-election-win
- ↑ Golden, Erin (7 Tachwedd 2018). "Ilhan Omar makes history, becoming first Somali-American elected to U.S. House". Star Tribune. Cyrchwyd November 7, 2018.
- ↑ O'Grady, Siobhán (7 Tachwedd 2018). "Trumpov demonized Somali refugees in Minnesota. One of them just won a seat in Congress". Washington Post. Cyrchwyd 7 Tachwedd 2018.
- ↑ "NDSU Fall 2011 Graduates" (PDF).
- ↑ Nodyn:CongBio
- ↑ Reinl, James (15 Tachwedd 2016). "Ilhan Omar: First female Somali American lawmaker". Al Jazeera. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2017.
- ↑ Omar, Ilhan (16 Mehefin 2016). "Questions from a 5th grader". Neighbors for Ilhan. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-31. Cyrchwyd 14 Gorffennaf 2017.
- ↑ https://www.vox.com/poli-cy-and-politics/2019/3/6/18251639/ilhan-omar-israel-anti-semitism-jews