Imre Kertész
Imre Kertész | |
---|---|
Ganwyd | 9 Tachwedd 1929 Budapest |
Bu farw | 31 Mawrth 2016 Budapest |
Dinasyddiaeth | Hwngari |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, cyfieithydd, nofelydd, newyddiadurwr, sgriptiwr |
Adnabyddus am | Fatelessness, Liquidation |
Priod | Albina Vas, Magda Ambrus |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Kossuth, Gwobr Herder, Croes Marchog-Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Medal Ernst Reuter, Gwobr Lenyddiaeth y Wladwriaeth, Brandenburg, Gwobr Sándor Márai, Milán Füst Prize, Gwobr Tibor Déry, Gwobr Friedrich-Gundolf, Hungarian Order of Saint Stephen, Uwch Groes Urdd Teilyngdod Hwngari, Adelbert von Chamisso Prize (complimentary gift), Medal Goethe, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rydd Berlin, Gwobr Jean-Améry, Gwobr Llyfr Leipzig am Gyfraniad i Dealltwriaeth Ewropeaidd, Marion Samuel Prize, Urdd Sant Steffan o Hwngari, dinesydd anrhydeddus Budapest, Jeanette Schocken Prize, Jeanette Schocken Prize, honorary doctor of the Sorbonne Nouvelle University |
Awdur o Hwngari oedd Imre Kertész (Hwngareg: Kertész Imre) (9 Tachwedd 1929 – 31 Mawrth 2016). Yn 2002 daeth yr awdur cyntaf o'i wlad i ennill Gwobr Lenyddol Nobel. Mae ei weithiau'n ymdrin â themâu'r Holocost, unbennaeth a rhyddid personol.[1]
Fe'i ganwyd yn Budapest yn fab i rieni Iddewig. Yn fachgen 14 oed fe'i carcharwyd yng ngwersyll difa Buchenwald yn yr Almaen. Darlunnir rhai o'r profiadau hyn yn ei nofelau Sorstalanság ("Diffyg tynged"; 1975), A kudarc ("Ffiasgo", 1988) a Kaddis a meg nem született gyermekért ("Gweddi dros blentyn heb ei eni"; 1990). Bu farw yn 86 oed, yn ei gartref yn Budapest ar ôl dioddef o glefyd Parkinson am nifer o flynyddoedd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ George Gomori (31 Mawrth 2016). "Imre Kertész obituary". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Ebrill 2016.