Content-Length: 109675 | pFad | https://cy.wikipedia.org/wiki/Lazar_Kaganovich

Lazar Kaganovich - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Lazar Kaganovich

Oddi ar Wicipedia
Lazar Kaganovich
Ffotograff o Lazar Kaganovich yn y 1930au.
Ganwyd10 Tachwedd 1893 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Dibrova Edit this on Wikidata
Bu farw25 Gorffennaf 1991 Edit this on Wikidata
SwyddFirst Deputy Premier of the Soviet Union, First Secretary of the Communist Party of Ukraine Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Coffau 800fed Pen-blwydd Moscaw, Medal Jiwbili "I Goffáu 100fed Pen-blwydd Geni Vladimir Ilyich Lenin" (10 gair / words) Edit this on Wikidata
llofnod

Gwleidydd Sofietaidd oedd Lazar Moiseyevich Kaganovich (22 Tachwedd [10 Tachwedd yn yr Hen Ddull] 189325 Gorffennaf 1991) a wasanaethodd yn Brif Ddirprwy Gadeirydd Cyngor Gweinidogion yr Undeb Sofietaidd o 1953 i 1957. Roedd yn un o brif gefnogwyr Joseff Stalin.

Ganed ef i deulu Iddewig yn Kabany, Llywodraethiaeth Kyiv, Ymerodraeth Rwsia, a leolir heddiw yn Oblast Kyiv, Wcráin. Yn ei arddegau, tra'n gweithio fel crydd yn Kyiv, ymaelododd â Phlaid Ddemocrataidd Sosialaidd y Gweithwyr ym 1911 ac ymunodd â'r asgell tra-chwyldroadol—y Bolsieficiaid—a fyddai'n cipio grym yn sgil Chwyldro Rwsia (1917) ac yn sefydlu'r Undeb Sofietaidd. Ym 1920 fe'i penodwyd yn bennaeth ar y llywodraeth newydd yn Tashkent, a llwyddodd i atgyfnerthu rheolaeth Sofietaidd dros Dyrcestan. Daeth i sylw Joseff Stalin, a ddyrchafwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol ym 1922, a phenodwyd Kaganovich i oruchwylio adrannau lleol y blaid. Ym 1924, pan ddaeth Stalin yn arweinydd goruchaf yr Undeb Sofietaidd, rhoddwyd i Kaganovich awdurdod dros nawddogaeth o fewn y blaid, ac yn y swydd honno sicrhaodd y byddai Stalin a'i gefnogwyr yn drech na'i elynion gwleidyddol.[1] Gwasanaethodd hefyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Wcráin o 1925 i 1928.[2]

Erbyn 1930, yr oedd Kaganovich yn aelod llawn o Swyddfa Wleidyddol y Pwyllgor Canolog (y Politbiwro) ac yn un o gynghorwyr agosaf Stalin. Dadleuodd yn frwd dros gyfunoli ar raddfa eang yn y 1930au, ac yn ei swydd fel pennaeth y Blaid Gomiwnyddol ym Moscfa o 1930 i 1935 atgyfnerthodd rym Stalin dros weinyddiaeth y brifddinas. Arweiniodd Kaganovich a Vyacheslav Molotov yr ymgyrch yn y Politbiwro yn erbyn ymdrechion Sergei Kirov i herio unbennaeth Stalin.[1] Aeth Kaganovich a Molotov i Wcráin yng Ngorffennaf 1932 i orfodi cwotâu'r llywodraeth am ŷd, ac o'r herwydd mae lle i gredu yr oedd Kaganovich yn un o'r rhai a fu'n gyfrifol am newyn yr Holodomor (1932–33).[2] Kaganovich oedd un o brif gefnogwyr y Carthiad Mawr (1936–38) a ddinistriodd y gwrthwynebiad i Stalin yn y blaid a'r wladwriaeth.

Penodwyd Kaganovich yn gomisâr dros gludiant ym 1935, diwydiant trwm ym 1937, a'r diwydiannau tanwydd a phetroliwm ym 1939. Penodwyd yn ddirprwy brif weinidog ym 1938 ac yn aelod o Bwyllgor Amddiffyn y Wladwriaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, Kaganovich oedd un o ychydig o'r Iddewon amlwg na chawsai eu herlid yn ystod carthiadau gwrth-Semitaidd Stalin.[1] Yn y cyfnod wedi'r Carthiad Mawr hyd at farwolaeth Stalin ym 1953, Kaganovich oedd yn bennaf gyfrifol am y diwydiannau trymion yn yr Undeb Sofietaidd. Yn ogystal â'r newynau yn Wcráin a Gogledd y Cawcasws ym 1933, câi Kaganovich ei feio am waethygu'r newyn ar draws gweriniaethau gorllewinol yr Undeb Sofietaidd ym 1946–47.[2]

Bu farw Stalin ym Mawrth 1953, a than y drefn newydd gwasanaethodd Kaganovich yn Brif Ddirprwy Gadeirydd Cyngor y Gweinidogion. Gwrthwynebodd ymdrechion yr arweinydd newydd, Nikita Khrushchev, i ddad-Stalineiddio, ac ym Mehefin 1957 ymunodd Kaganovich â'r cynllwyn aflwyddiannus i ddisodli Krushchev. O ganlyniad, diswyddwyd Kaganovich o'i holl swyddi llywodraethol. Ym 1964 datganodd y llywodraeth i Kaganovich gael ei fwrw allan o'r Blaid Gomiwnyddol. Bu farw Lazar Kaganovich ym Moscfa ym 1991 yn 97 oed, y goroeswr olaf o do'r Hen Folsieficiaid.[3] Pum mis wedi ei farwolaeth, chwalodd yr Undeb Sofietaidd. Cyhoeddwyd ei hunangofiant ym 1996.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Lazar Moiseyevich Kaganovich. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 11 Rhagfyr 2022.
  2. 2.0 2.1 2.2 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 249–50.
  3. Garthoff, Raymond L. (1994). The Great Transition: American-Soviet Relations and the End of the Cold War. Washington, DC: Brookings Institution. t. 461, n30. ISBN 0-8157-3060-8.








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Lazar_Kaganovich

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy