Ludvig Holberg
Ludvig Holberg | |
---|---|
Darluniad o'r Barwn Ludvig Holberg. | |
Ffugenw | Hans Mikkelsen |
Ganwyd | 3 Rhagfyr 1684 Bergen |
Bu farw | 28 Ionawr 1754 Copenhagen |
Dinasyddiaeth | Norwy, Brenhiniaeth Denmarc |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, athronydd, dramodydd, hanesydd, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, nofelydd, sgriptiwr, academydd, bardd |
Swydd | athro cadeiriol, rheithor |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | The Political Tinker |
Arddull | drama, rhyddiaith |
Prif ddylanwad | Molière, Plautus |
Tad | Christen Nielsen Holberg |
Mam | Karen Lem |
llofnod | |
Dramodydd, bardd, ac hanesydd Norwyaidd-Danaidd oedd Ludvig Holberg, Barwn Holberg (3 Rhagfyr 1684 – 28 Ionawr 1754) a ystyrir yn dad ar draddodiadau llenyddol modern Denmarc a Norwy, yn arloeswr y ddrama yng ngwledydd Llychlyn, ac yn un o brif ffigurau'r Oleuedigaeth yn Llychlyn.
Bywyd cynnar a theulu
[golygu | golygu cod]Ganed Ludvig Holberg yn Bergen, yn nheyrnas Denmarc–Norwy, ar 3 Rhagfyr 1684. Y plentyn ieuengaf o ddeuddeg ydoedd a anwyd i'r Lefftenant Cyrnol Christian Nielsen Holberg a'i wraig Karen Lem. Mab o linach o ffermwyr oedd y Lefftenant Cyrnol Holberg, a daeth Karen, a oedd yn 25 mlynedd yn ieuangach na'i gŵr, o deulu o farsiandïwyr. Bu'r teulu yn gefnog ar un adeg, ond yn dlawd erbyn yr oedd Ludvig yn ddwyflwydd oed. Bu farw chwech o'i frodyr a chwiorydd yn fabanod. Ym 1688, bu farw'r Lefftenant Cyrnol Holberg, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno câi amodau'r teulu eu chwalu yn fwy gan dân yn Bergen. Ym 1696, pan nad oedd Ludvig eto yn ei arddegau, bu farw Karen Holberg, ac anfonwyd y plant amddifaid i fyw gyda pherthnasau.[1]
Am y tair blynedd gyntaf wedi marwolaeth ei fam, bu Ludvig yn byw gyda gweinidog eglwys yn rhanbarth Gudbrandsdalen. Er iddo ddangos diddordeb mewn llenyddiaeth ac ieithoedd, nid oedd yn dod ymlaen yn dda gyda'i athro, ac felly ni ddisgleiriodd fel disgybl, a chafodd ei anfon i fyw gyda'i ewythr Peder Lem yn Bergen. Yno, yn ôl yn ei ddinas enedigol, mynychodd Ludvig yr ysgol ramadeg.[1]
Addysg
[golygu | golygu cod]Derbyniwyd Ludvig Holberg i Brifysgol Copenhagen yn 18 oed, ac enillodd ei radd mewn diwinyddiaeth ac athroniaeth o fewn dwy flynedd, wedi iddo dreulio blwyddyn yn tiwtora yn Norwy. Wedi iddo raddio, cychwynnodd ar ei deithiau gan ymweld â'r Iseldiroedd ym 1704. Fodd bynnag, roedd ganddo ddiffyg arian ac aeth yn sâl yn ninas Aachen, a bu'n rhaid iddo ddychwelyd i Bergen ar droed ym 1705.[2]
Yn Bergen, gweithiodd Holberg yn diwtor Ffrangeg ac ychwanegodd at ei incwm trwy addysgu ieithoedd eraill yn Kristiansand. Wedi iddo ennill digon o arian i ailddechrau ei deithiau a'i addysg, cychwynnodd arni unwaith eto ac aeth i Loegr ym 1706. Treuliodd ddwy flynedd yn astudio hanes, ieithoedd, a llenyddiaeth yn Llyfrgell Bodley, Rhydychen, a daeth yn gyfarwydd â syniadau'r Oleuedigaeth. Dylanwadwyd arno'n arbennig gan weithiau Jonathan Swift. Enillodd ei damaid yn Lloegr fel athro ffliwt a fiolin. Gadawodd Holberg Loegr ym 1708, a chyn iddo ddychwelyd i Ddenmarc treuliodd gyfnod y gaeaf 1708–09 yn astudio yn Leipzig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "Ludvig Holberg" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar Rhagfyr 2021.
- ↑ (Saesneg) Ludvig Holberg, Baron Holberg. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2021.
- Genedigaethau 1684
- Marwolaethau 1754
- Academyddion o Ddenmarc
- Academyddion o Norwy
- Academyddion Prifysgol Copenhagen
- Beirdd y 18fed ganrif o Ddenmarc
- Beirdd y 18fed ganrif o Norwy
- Beirdd Daneg o Ddenmarc
- Beirdd Daneg o Norwy
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Copenhagen
- Dramodwyr y 18fed ganrif o Norwy
- Dramodwyr y 18fed ganrif o Ddenmarc
- Dramodwyr Daneg o Ddenmarc
- Dramodwyr Daneg o Norwy
- Nofelwyr y 18fed ganrif o Ddenmarc
- Nofelwyr Lladin o Ddenmarc
- Pobl o Bergen