Marco Polo
Marco Polo | |
---|---|
Ganwyd | 15 Medi 1254 Fenis |
Bu farw | 8 Ionawr 1324 Fenis |
Galwedigaeth | masnachwr, fforiwr, diplomydd, llysgennad, teithiwr byd, llenor, teithiwr, entrepreneur, bywgraffydd |
Adnabyddus am | The book of Ser Marco Polo the Venetian concerning the kingdoms and marvels of the East |
Tad | Niccolò Polo |
Priod | Donata Badoer |
Plant | Fantina Polo, Agnese |
Perthnasau | Maffeo Polo |
Llinach | Polo |
Masnachwr a fforiwr o'r Eidal oedd Marco Polo (ˈmarko ˈpɔːlo; 15 Medi 1254 – 8 Ionawr 1324). Aeth ar daith hir dros Asia i Tsieina yng nghyfnod Brenhinllin Yuan, gan ddilyn Llwybr y Sidan o arfordir dwyreiniol y Môr Canoldir a thrwy Ganolbarth Asia a Mongolia i Tsieina.[1][2] Cofnodwyd ei deithiau yn Livres des merveilles du monde ("Llyfr Rhyfeddodau'r Byd") gan Rustichello da Pisa, llyfr a gyflwynodd Canol Asia a Tsieina i'r Ewropeaid.
Dysgodd y grefft o farchnata gan ei dad a'i ewyrth (Niccolò a Maffeo Polo) a deithiodd drwy Asia ac a ddaethant wyneb yn wyneb gyda Kublai Khan. Yn 1269 y cychwynodd y tri eu taith gan ddychwelyd 24 blynedd yn ddiweddarach – i ganol rhyfel rhwng Fenis a Genova. Carcharwyd Marco a llefarodd ei helyntion yn Asia wrth ei gyd-carcharor Rusticello da Pisa, a gofnododd y cyfan ar ei ran. Cafodd ei ryddhau yn 1299 a daeth yn fasnachwr cyfoethog; priododd a chawsant dri o blant. Bu farw yn 1324 ac fe'i claddwyd yn Eglwys San Lorenzo, Fenis.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ William Tait, Christian Isobel Johnstone (1843), Tait's Edinburgh magazine, Cyfrol 10, Edinburgh
- ↑ Hinds, Kathryn (2002), Venice and Its Merchant Empire, Efrog Newydd