Content-Length: 84147 | pFad | https://cy.wikipedia.org/wiki/Mwyaren

Mwyaren - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Mwyaren

Oddi ar Wicipedia
Mwyar duon
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Is-deulu: Rosoideae
Genws: Rubus
Is-enws: Rubus (neu Eubatus)
Rhywogaethau

Rubus fruticosus
(a channoedd o feicrorywogaethau eraill)

Ffrwyth bwytadwy yw mwyar duon sy'n tyfu ar fiaren (neu'r Rubus fruticosus) a cheir sawl math gwahanol. Mae'r gair "mieri" yn cyfeirio at y berth pigog hwnnw yn air a glywir ar lafar gwlad yn hytrach nag yn air a ddefnyddir yn y dosbarthiad gwyddonol. Mae'n blodeuo rhwng mis Mai a mis Awst. Mae'r blodau'n wyn neu'n binc a'r ffrwythau'n ddu neu'n biws tywyll.

Gellir defnyddio'r ffrwyth i wneud jam, win neu darten. Ceir dros 375 math gwanhanol ac mae llawer ohonyn nhw'n perthyn yn agos at ei gilydd.[1]

Ffenoleg

[golygu | golygu cod]

Rydym yn ymddangos yn hel mwyar duon yn gynt heddiw na chanrif yn ôl.[2] Dyma’r holl gofnodion (“hel mwyar duon” - “picking blackberries) hyd yma. Os oes dau gofnod yn y flwyddyn yna cymerir y cyntaf yn unig. Mae’r patrwm yn drawiadol - Mae cofnod 1940* [saeth melyn] yn torri’r patrwm: Dyma’r cofnod hwnnw:

9 Awst 1940 Rhoddais y rhan fwyaf o heddiw i gasglu mwyar duon gyda fy mrawd a'i fachgen bach pedair oed. Cawsom fasgedaid lawn, oddeutu saith pwys. Yr oedd cyfraniad y bychan yn llawer mwy i'w gylla nag i'r fasged. Tystia ei wefysau a'i dafod i hynny.[3]
Newid dros amser yn y dyddiad cyntaf “hel mwyar duon” yng Nghymru’n bennaf

Dyma'r meteorolegydd Huw Holland Jones:

1940 was a good summer over Wales & Eng. June was very sunny (311hrs sun at Holyhead) & dry (19mm), July had av rain & above av. sun. Aug was very dry with av sun..so I suspect the early warmth & sun brought on the blackberries and the July rain helped them swell.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Huxley, A., ed. (1992). New RHS Dictionary of Gardening. Macmillan ISBN 0-333-47494-5.
  2. Bwletin Llên Natur rhifyn 43
  3. Dyddiadur y Parch JR Richards XM12309
Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Mwyaren

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy