Neuralink
The Pioneer Building yn San Francisco, a arferai fod yn gartref i swyddfeydd Neuralink ac OpenAI | |
Enghraifft o'r canlynol | busnes, menter |
---|---|
Gwlad | UDA |
Dechrau/Sefydlu | Mehefin 2016 |
Sylfaenydd | Elon Musk, Jared Birchall |
Gweithwyr | 300 |
Cynnyrch | neurochip |
Pencadlys | Pioneer Building, San Francisco, Califfornia |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Gwefan | https://neuralink.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Neuralink Corp.[1] yn gwmni niwrodechnoleg Americanaidd sy'n datblygu rhyngwynebau ymennydd-cyfrifiadur y gellir eu mewnblannu (BCI). Lleolir y cwmni yn Fremont, California, ac fe'i sefydlwyd yn 2016 gan Elon Musk gyda thîm o saith gwyddonydd.[2][3][4][5]
Ers ei sefydlu, mae'r cwmni wedi cyflogi nifer o niwrowyddonwyr proffil uchel o wahanol brifysgolion.[6] Erbyn Gorffennaf 2019, roedd wedi derbyn $158 miliwn mewn cyllid (gyda $100 miliwn ohono gan Musk ei hun) ac roedd yn cyflogi staff o 90 o weithwyr.[7] Bryd hynny, cyhoeddodd Neuralink ei fod yn gweithio ar ddyfais "tebyg i beiriant gwnïo" sy'n gallu mewnblannu edafedd tenau iawn (4 i 6 μm o led[8] ) yn yr ymennydd, a dangoswyd system sy'n darllen gwybodaeth o lygoden fawr trwy 1,500 o electrodau. Ym Mai 2023, cawsant eu cymeradwyo i greu treialon dynol yn yr Unol Daleithiau.[9]
Mae'r cwmni wedi wynebu beirniadaeth am arbrofi a lladd llawer iawn o brimatiaid yn dilyn treialon mewn labordai. Roedd cofnodion milfeddygol o'r mwncïod yn dangos nifer o gymhlethdodau gydag electrodau'n cael eu mewnblannu yn eu hymennydd drwy lawdriniaeth.
Cwmni
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Neuralink yn 2016 gan Elon Musk a thîm sefydlu o saith gwyddonydd a pheiriannydd.[10][11] Roedd y grŵp llogi cychwynnol yn cynnwys arbenigwyr mewn meysydd fel niwrowyddoniaeth, biocemeg a roboteg.[12] Prynwyd y nod masnach "Neuralink" gan ei berchnogion blaenorol ym Ionawr 2017.[13][14]
Yn Ebrill 2017, cyhoeddodd Neuralink ei fod yn anelu at wneud dyfeisiau i drin clefydau difrifol yn yr ymennydd yn y tymor byr, gyda'r nod yn y pen draw o wella 'r claf, sef yr hyn a elwir weithiau yn drawsddynoliaeth.[15][16][17] Roedd Musk wedi dweud bod ei ddiddordeb yn y syniad yn deillio'n rhannol o'r cysyniad ffuglen wyddonol o “les niwral” fel y caiff ei ddisgrifio yn y bydysawd ffuglennol yn The Culture, cyfres o 10 nofel gan Iain M. Banks a gychwynnodd ei sgwennu yn 1987.[17][18]
Allan o'r saith gwyddonydd cyntaf, erbyn 2022, dim ond dau oedd yn parhau mewn swydd.[19]
Cysylltyddion (y gwifrau)
[golygu | golygu cod]Mae'r gwifrau (probes) yn cynnwys polyimid yn bennaf, deunydd bio-gydnaws, gyda dargludydd aur neu blatinwm tenau, yn cael eu gosod yn yr ymennydd trwy broses otomataidd a berfformir gan robot llawfeddygol. Sonir am "stribed o blatiwmwn" yn Y Dydd Olaf drosod a drosodd. Mae pob cysylltydd yn cynnwys nifer o wifrau sy'n cynnwys electrodau sy'n gallu lleoli signalau trydanol yn yr ymennydd, ac ardal synhwyraidd lle mae'r wifren yn rhyngweithio â system electronig sy'n chwyddo ac yn 'siarad' gyda signalau'r ymennydd. Mae pob cyswllt yn cynnwys 48 neu 96 o wifrau, pob un ohonynt yn cynnwys 32 electrod annibynnol, gan wneud system o hyd at 3,072 o electrodau fesul ffurfiad.[8]
Robot llawfeddygol
[golygu | golygu cod]Dywed Neuralink eu bod wedi creu robot llawfeddygol sy'n gallu gosod llawer o wiars ymchwiliol hyblyg yn gyflym yn yr ymennydd, a allai osgoi problemau difrodi'r meinwe a materion hirhoedlog sy'n gysylltiedig â weiars llai hyblyg.[20][21][22] Mae gan y robot llawfeddygol hwn nodwydd gyda diamedr 40 μm wedi'i wneud o twngsten - rheniwm a gynlluniwyd i gysylltu â'r dolenni mewnosod, chwistrellu weiars unigol, a threiddio'r meninges a meinwe'r ymennydd; gall osod hyd at chwe gwifren (192 electrod) y funud.[20]
Profion dynol
[golygu | golygu cod]Derbyniodd Neuralink gymeradwyaeth yr FDA ar gyfer treialon clinigol dynol ym Mai 2023. Yn 2022 gwrthododd yr FDA cais i fynd ar drywydd treialon clinigol dynol gan nodi "pryderon diogelwch mawr yn ymwneud â batri lithiwm y ddyfais; y potensial i wifrau bychan y mewnblaniad fudo i rannau eraill o'r ymennydd; a chwestiynau ynghylch sut y gellir tynu'r ddyfais heb niweidio meinwe'r ymennydd."[23]
Ar 19 Medi 2023, dechreuodd Neuralink ei dreialon dynol cyntaf gan recriwtio cleifion.[24][25]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Dydd Olaf, nofel Gymraeg gan Owain Owain a shwennwyd yn 1967-8
- Trawsddynoliaeth
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "NEURALINK CORP". OpenCorporates. 2016-06-21. Cyrchwyd 2023-08-02.
- ↑ Winkler, Rolfe (March 27, 2017). "Elon Musk Launches Neuralink to Connect Brains With Computers". Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 5, 2017. Cyrchwyd May 4, 2017.
- ↑ "Meet the Guys Who Sold "Neuralink" to Elon Musk without Even Realizing It". MIT Technology Review (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 19, 2021. Cyrchwyd 2022-07-19.
- ↑ Masunaga, Samantha (21 April 2017). "A quick guide to Elon Musk's new brain-implant company, Neuralink". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 5, 2017. Cyrchwyd May 4, 2017.
- ↑ Statt, Nick (March 27, 2017). "Elon Musk launches Neuralink, a venture to merge the human brain with AI". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 6, 2018. Cyrchwyd September 6, 2017.
- ↑ "Elon Musk's Brain Tech Startup Is Raising More Cash" (yn Saesneg). 2019-05-11. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 11, 2019. Cyrchwyd 2019-05-12.
The company has hired away several high-profile neuroscientists
- ↑ Markoff, John (2019-07-16). "Elon Musk's Company Takes Baby Steps to Wiring Brains to the Internet". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Archifwyd o'r gwreiddiol ar July 17, 2019. Cyrchwyd 2019-07-17.
- ↑ 8.0 8.1 Elon Musk unveils Neuralink’s plans for brain-reading ‘threads’ and a robot to insert them.
- ↑ Sharma, Akriti; Levy, Rachel (May 25, 2023). "Elon Musk's Neuralink says has FDA approval for study of brain implants in humans". Reuters.
- ↑ Kolodny, Lora (2021-05-02). "Neuralink co-founder Max Hodak leaves Elon Musk's brain implant company". CNBC (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 7, 2021. Cyrchwyd 2022-07-19.
- ↑ "Neuralink co-founder departs Musk-backed startup -sources". Reuters (yn Saesneg). 2022-07-19. Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 4, 2023. Cyrchwyd 2022-07-19.
- ↑ Masunaga, Samantha (21 April 2017). "A quick guide to Elon Musk's new brain-implant company, Neuralink". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 5, 2017. Cyrchwyd May 4, 2017.Masunaga, Samantha (April 21, 2017).
- ↑ "Meet the Guys Who Sold "Neuralink" to Elon Musk without Even Realizing It". MIT Technology Review (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 19, 2021. Cyrchwyd 2022-07-19."Meet the Guys Who Sold "Neuralink" to Elon Musk without Even Realizing It".
- ↑ Levy, Rachael (2022-12-01). "Elon Musk expects Neuralink's brain chip to begin human trials in 6 months". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar December 2, 2022. Cyrchwyd 2022-12-02.
- ↑ Urban, Tim (20 April 2017). "Neuralink and the Brain's Magical Future". Wait But Why. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 4, 2017. Cyrchwyd May 4, 2017.
- ↑ Masunaga, Samantha (21 April 2017). "A quick guide to Elon Musk's new brain-implant company, Neuralink". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 5, 2017. Cyrchwyd May 4, 2017.Masunaga, Samantha (April 21, 2017).
- ↑ 17.0 17.1 Newitz, Annalee (March 27, 2017). "Elon Musk is setting up a company that will link brains and computers". Ars Technica (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 19, 2017. Cyrchwyd May 4, 2017.
- ↑ Cross, Tim (31 March 2017). "The novelist who inspired Elon Musk". The Economist. 1843 Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar May 21, 2017. Cyrchwyd May 4, 2017.
- ↑ "Inside Neuralink, Elon Musk's mysterious brain chip startup: A culture of blame, impossible deadlines, and a missing CEO". Fortune (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 25, 2022. Cyrchwyd 2022-01-31.
- ↑ 20.0 20.1 Musk, Elon; Neuralink (Oct 2019). "An integrated brain-machine interface platform with thousands of channels" (yn en). J Med Internet Res. 21 (10): e16194. doi:10.2196/16194. PMC 6914248. PMID 31642810. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=6914248.
- ↑ Biran, Roy; Martin, David C.; Tresco, Patrick A. (2005-09-01). "Neuronal cell loss accompanies the brain tissue response to chronically implanted silicon microelectrode arrays" (yn en). Experimental Neurology 195 (1): 115–126. doi:10.1016/j.expneurol.2005.04.020. ISSN 0014-4886. PMID 16045910.
- ↑ Hanson, Timothy L.; Diaz-Botia, Camilo A.; Kharazia, Viktor; Maharbiz, Michel M.; Sabes, Philip N. (2019-03-14). "The "sewing machine" for minimally invasive neural recording" (yn en). bioRxiv: 578542. doi:10.1101/578542. https://www.biorxiv.org/content/10.1101/578542v1. Adalwyd December 10, 2020.
- ↑ "U.S. regulators rejected Elon Musk's bid to test brain chips in humans". Reuters (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar March 2, 2023. Cyrchwyd 2023-03-02.
- ↑ Singh, Maanvi (September 19, 2023). "Elon Musk's Neuralink approved to recruit humans for brain-implant trial". The Guardian.
- ↑ Studio, Play. "Neuralink's First-in-Human Clinical Trial is Open for Recruitment | Blog". Neuralink (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-22.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Video ar YouTube gan Neuralink; 16 Gorffennaf 2019
- Video ar YouTube gan Neuralink; 1 Rhagfyr 2022
- Andrew Huberman: "Dr. Matthew MacDougall: Neuralink & Technologies to Enhance Human Brains" (cyfweliad gyda phrif llawfeddyg Neuralink, Ebrill 2023)