Content-Length: 93717 | pFad | https://cy.wikipedia.org/wiki/Opiwm

Opiwm - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Opiwm

Oddi ar Wicipedia
Tyfu opiwm yn ardal Malwa, gorllewin India

Cyffur poenliniarol narcotig yw opiwm a geir o godennau aeddfed y pabi opiwm wedi i'w betalau cwympo (Papaver somniferum L. neu paeoniflorum).

Mae tyfu cnydau opiwm wedi bod yn bwysig mewn rhai ardaloedd gwledig yn ne Asia ers canrifoedd lawer. Mae canran uchel iawn o opiwm y byd yn dod o Affganistan, er enghraifft. Mae cnydau sylweddol yn cael eu tyfu ym Mhacistan, y Triongl Aur yn Ne-ddwyrain Asia (yn arbennig ym Myanmar), Colombia a Mecsico hefyd.

Defnyddir y cyffur at ddibenion meddygol ac fel cyffur adloniadol. Fel cyffur naturiol roedd yn rhan o ddiwylliant de a dwyrain Asia am ganrifoedd, a chan amlaf yn cael ei ysmygu neu ei fwyta er mwyn yr effeithiau narcotig, pleserus. Roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon yn Ewrop a gogledd America ac roedd yn gyffur poblogaidd iawn yn y 18g. Ymhlith ei ddefnyddwyr enwocaf mae De Quincey, Tennyson, Iolo Morganwg ac Edgar Allan Poe. Ond erbyn heddiw mae'n cael ei brosesu mewn ffatrïoedd anghyfreithlon i gynhyrchu heroin - cyffur cryfach o lawer - ac wedyn yn cael allforio'n ddirgel.

Defnydd hanesyddol yng Nghymru

[golygu | golygu cod]

Cofnododd William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell fel hyn tra roedd yn aros yn Nulyn ar 25 Hydref 1735:

The wind S.W.; rained almost all day. Paid 6/- for a pair of shoes ; paid 4d. for 1/4 dr. of opium; paid at my lodging house 4/6 for Punch.

Meddai Twm Elias[1]: “roedd ‘na ddefnyddiau meddygol pwysig iawn i opiwm (sug y pabi gwyn) ac fe’i ceid fel soled wedi ei sychu o sug y ffrwyth. Neu gellid ei doddi mewn alcohol a dŵr (cyfartaledd 1 : 1 : 1) i greu Laudanum, oedd yn fwy cyfleus ac yn gweithio’n gynt. Fel hypnotig a thawelydd (‘sedative’) roedd yn ddefnyddiol iawn i leddfu poen a thawelu rhywun oedd wedi gor- gynhyrfu. Roedd ei effeithiau astringent yn dda ar gyfer y dolur rhydd a dysentri a’i effeithiau expectorant, diafforetig, tawelyddol a gwrth-spasmodig yn ei wneud yn dda ar gyfer rhai mathau o beswch. Mae ‘na dros 20 o wahanol alcaloidiau mewn opiwm, a’r ddau fwyaf cyfarwydd erbyn heddiw ydi Codeine a Morphine. Mae’n cael ei dyfu dan drwydded mewn sawl gwlad i gyflenwi’r cyffuriau meddygol hyn ond mae ‘na gryn dyfu arno fo hefyd i gyflenwi’r farchnad gyffuriau anghyfreithlon! ‘Swn i’n feddwl mai i bwrpas meddygol yr oedd Bulkeley yn ei brynu...?

Datgelwyd yn ddiweddar bod tad yr actor enwog Kenneth Williams yn gaeth i heroine ar ffurf y moddion cyffredin Gee’s Linctus[2]

  1. Twm Elias (cys. personol DB
  2. sylw personol








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Opiwm

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy