Plât ardyfiannol
Enghraifft o: | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | cartilag hyalin esgyrn, endid anatomegol arbennig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r plât ardyfiannol (neu'r plât tyfiant) yn blât cartilag hyalin yn y metaffisis, ar ben asgwrn hir. Dyma'r rhan o'r asgwrn hir ble mae tyfiant asgwrn newydd yn digwydd; hynny yw, mae'r asgwrn i gyd yn fyw, gyda chynhaliaeth ailfodelu trwy'r meinwe asgwrn i gyd, ond y plât tyfiant yw'r man ble mae'r asgwrn hir yn tyfu (gan ychwanegu hyd iddo).
Mae plât i'w gael mewn plant a phobl ifanc yn eu llencyndod. Mewn oedolion sydd wedi tyfu'n llawn, mae llinell ardyfiannol wedi cymryd lle y plât. Mae'r newid hwn yn cael ei alw'n derfyniad ardyfiannol.
Arwyddocad clinigol
[golygu | golygu cod]Gall nam yn natblygiad ac ymraniad y platiau ardyfiannol arwain at afiechydon tyfiant. Y nam mwyaf cyffredin yw acondroplasia, ble ceir nam yn ffurfiad cartilag. Acondroplasia yw achos mwyaf cyffredin corachedd.
Toresgyrn Salter–Harris yw toresgyrn perthnasol i'r platiau ardyfiannol ac maen nhw felly'n tueddu i amharu ar dyfiant, taldra neu ffwythiannau ffisiolegol[1].
Mae Clefyd Osgood-Schlatter yn ganlyniad i straen ar y plât ardyfiannol yn y tibia, yn arwain at or-dyfiant esgyrn a lwmp poenus yn y pen-glin.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Mirghasemi, Alireza; Mohamadi, Amin; Ara, Ali Majles; Gabaran, Narges Rahimi; Sadat, Mir Mostafa (November 2009). "Completely displaced S-1/S-2 growth plate fracture in an adolescent: case report and review of literature". Journal of Orthopaedic Trauma 23 (10): 734–738. doi:10.1097/BOT.0b013e3181a23d8b. ISSN 1531-2291. PMID 19858983. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pubmed/19858983.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Esgyrn normal yn GetTheDiagnosis.org, yn dangos datblygiad platiau ardyfiannol ar gyfer gwahanol oedrannau ac esgyrn.