Roald Amundsen
Roald Amundsen | |
---|---|
Ganwyd | Roald Engelbregt Gravning Amundsen 16 Gorffennaf 1872 Borge Municipality |
Bu farw | 18 Mehefin 1928 o damwain awyrennu Cefnfor yr Arctig, Ynys yr Eirth |
Man preswyl | Roald Amundsen's house in Uranienborg, Oslo, Fredrikstad |
Dinasyddiaeth | Norwy |
Galwedigaeth | fforiwr, llenor, morwr, ymchwilydd, fforiwr pegynol, hedfanwr, teithiwr, naval aviator, cyfarwyddwr ffilm |
Tad | Jens Amundsen |
Gwobr/au | Gwobr Rhagoriaeth Fridtjof Nansen mewn Mathemateg a'r Gwyddorau Naturiol, Marchog Croes Uwch Urdd Sant Olav, Medal Hubbard, Medal Constantin, Marchog Urdd Leopold, Vega Medal, Alexander von Humboldt Medal, Medal y Noddwr, Medal Aur y Gyngres, Grande Médaille d'Or des Explorations, Medal for Outstanding Civic Service, Medal of Merit in Gold with Crown, Medal y Pegynau, Charles P. Daly Medal, Gwobr "Plus Ultra", Medal for Aeronautical Valour, Livingstone Medal, South Pole Medal, Urdd Seren y Gogledd - Cadlywydd y Groes Uwch, Grand Cross of the Order of Franz Joseph, Chevalier de la Légion d'Honneur, Medal of Merit |
llofnod | |
Roedd Roald Engelbregt Gravning Amundsen (16 Gorffennaf 1872 – 18 Mehefin 1928) yn anturiaethwr o Norwy a deithiodd o gwmpas yr Arctig ac Antarctica. Mae'n fwyaf enwog am gyrraedd Pegwn y De cyn unrhyw ddyn arall, a hynny ar 14 Rhagfyr 1911 gyda chriw o ddynion. Fe'i ddilynwyd gan y Sais Robert Falcon Scott, 35 o ddiwrnodau'n hwyrach. Bu farw mewn damwain awyren dros Fôr yr Arctig ym Mehefin 1928 tra'n ceisio achub yr Eidalwr Umberto Nobile, a oedd yn ceisio hedfan dros Begwn y Gogledd mewn llong awyr. Ni ddarganfuwyd awyren Amundsen. Mae Gorsaf Amundsen-Scott ar Begwn y De, Môr Amundsen oddi ar Antarctica, a Chrater Amundsen ar wyneb y Lleuad, i gyd wedi'u enwi ar ei ôl.