Cwm-yr-Eglwys

pentref yn Sir Benfro

Pentref bychan yng nghymuned Dinas, Sir Benfro, Cymru, yw Cwm-yr-Eglwys[1] neu Cwmyreglwys.[2] Saif ar gilfach môr ar ochr ogleddol penrhyn Ynys y Ddinas, rhwng Abergwaun a phentref Trefdraeth. Mae'n gorwedd ym Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg heibio i'r pentref.

Cwm-yr-Eglwys
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.019°N 4.89°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN014400 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/au y DUStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Mae gan y pentref harbwr yng nghysgod y creigiau ar lan Bae Trefdraeth, sy'n rhan o Fae Ceredigion. Mae'r traeth bychan tywodlydd yn boblogaidd gan ymwelwyr.

Traeth Cwm-yr-Eglwys

Eglwys Sant Brynach

golygu

Prif atyniad y pentref yw adfeilion Eglwys Sant Brynach. Credir i'r eglwys gael ei sefydlu tua'r 6g gan Sant Brynach, aelod o deulu brenhinol Brycheiniog. Yn ôl traddodiad roedd y sant yn arfer mynd i ben Carn Ingli ger llaw i siarad â'r angylion. Mae'n bosibl mai clas oedd yno i ddechrau. Codwyd eglwys newydd ar y safle yn y 12g, ar batrwm Celtaidd. Yn anffodus dim ond rhan o'r clochdy a'r mur orllewinol a oroesoedd storm enbyd a drawodd ar 25 Hydref 1859; yr un storm a suddodd y Royal Charter, ger Moelfre, Ynys Môn, a 113 llong arall ar hyd arfordir Cymru y noson honno.

 
Adfeilion Eglwys Brynach Sant, Cwm-yr-Eglwys

Ffynhonnell

golygu
  • Christopher John Wright, A Guide to the Pembrokeshire Coast Path (Constable, 1988)

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 11 Tachwedd 2021
  2. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy