Swabia
Rhanbarth diwyllianol, hanesyddol ac ieithyddol yn yr Almaen yw Swabia (Almaeneg: Schwaben; hefyd Schwabenland neu Ländle ar lafar; ceir y ffurfiau hynafiaethol Suabia a Svebia hefyd weithiau). Mae'n gorwedd yn ne-orllewin yr Almaen gan gynnwys rhan helaeth talaith Baden-Württemberg am y ffin â'r Swistir. Enwir Swabia ar ôl y Suebi, llwyth Germanaidd hynafol.
Roedd Swabia yn un o'r deg Cylch Ymerodrol yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig o 1500 hyd ddiwedd yr Ymerodraeth yn 1806. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn ardal helaethach o lawer, yn ymestyn o fynyddoedd y Vosges yn y gorllewin i Afon Lech yn y dwyrain: roedd y diriogaeth honno'n cynnwys yr Alsace hanesyddol, ardal Baden ar lannau Afon Rhein, yr ardaloedd Almaeneg eu hiaith yng ngogledd y Swistir, talaith Vorarlberg yn Awstria a Thywsogaeth Liechtenstein.
Pobl o Swabia
golyguDetholiad o rai Swabiaid adnabyddus:
- Friedrich Adler (artist) (cynlluniwr Jugendstil ac Art Deco)
- Roland Asch (gyrrwr ceir rasio)
- Dieter Baumann (athletwr)
- Albrecht Behmel (hanesydd)
- Götz von Berlichingen (marchog)
- Robert Bosch (dyfeisydd)
- Berthold Brecht (bardd a dramodydd)
- Gottlieb Daimler (sylfenydd cwmni ceir Daimler)
- Rudolf Diesel (dyfeisydd yr injan Diesel)
- Josef Eberle (bardd)
- Jörg von Ehingen (marchog ac awdwr dyddiadur canoloesol)
- Albert Einstein (ffisegwr)
- Siegfried Einstein (bardd)
- Georg Elser (ceisiodd asasineiddio Adolf Hitler yn Munich yn 1939)
- Roland Emmerich (cyfarwyddwr ffilm Hollywood)
- Gudrun Ensslin (aelod o'r Red Army Faction sef y Giang Baader-Meinhof)
- Johann Georg Faust (dewin, sail i'r cymeriad Faust)
- Wilhelm Groener (swyddog)
- Wilhelm Hauff (bardd)
- Georg Wilhelm Friedrich Hegel (athronydd)
- Martin Heidegger (athronydd)
- Ernst Heinkel (cynlluniwr awyrennau)
- Hermann Hesse (llenor, enillydd Gwobr Nobel am Lenyddiaeth 1946)
- Theodor Heuss (cyn arlywydd)
- Friedrich Hölderlin (bardd)
- Johannes Kepler (seryddwr a mathemategwr)
- Justinus Kerner (bardd)
- Carl Friedrich Kielmeyer (biolegydd)
- Kurt Georg Kiesinger (gwleidydd)
- Carl Laemmle (sylfaenwr Universal Studios)
- Ottmar Mergenthaler (dyfeisydd y linotype)
- Eduard Mörike (bardd)
- Leopold Mozart, tad Wolfgang Amadeus Mozart
- Gerd Müller (cyn beldroediwr)
- Reinhold Nägele (artist)
- Friedrich Immanuel Niethammer (diwinydd, noddwr Hegel)
- Erwin Rommel (cadfridog)
- Friedrich Wilhelm Joseph Schelling (athronwr)
- Friedrich Schiller (llenor a hanesydd)
- Claus von Stauffenberg (ceisiodd ladd Adolf Hitler)
- Margarete Steiff (gwneuthurwr teganau)
- Andreas Stihl (sylfaenwr Stihl Maschinenfabrik)
- Ludwig Uhland (bardd)
- Richard von Weizsäcker (gwleidydd)