20th Century Fox
Math | stiwdio ffilm |
---|---|
Diwydiant | y diwydiant ffilm |
Sefydlwyd | 31 Mai 1935 |
Sefydlydd | Joseph M. Schenck, Darryl F. Zanuck, William Fox |
Pencadlys | Fox Plaza |
Pobl allweddol | (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | meddalwedd |
Perchnogion | The Walt Disney Company |
Nifer a gyflogir | 2,300 (2018) |
Gwefan | https://www.20thcenturystudios.com |
Un o chwe prif stiwdio ffilmiau yr Unol Daleithiau yw Twentieth Century Fox Film Corporation (sillafwyd fel Twentieth Century-Fox Film Corporation o 1934 hyd 1985), sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 20th Century Fox, Fox 2000 Pictures, neu yn syml Fox. Lleolir y cwmni yn ardal Century City o Los Angeles, i'r gorllewin o Beverly Hills ac mae'n is-gwmni i News Corporation, cydglyniad cyfryngol a reolir gan Rupert Murdoch. Sefydlwyd y cwmni ym 28 Rhagfyr 1934 wrth i ddau gwmni sef Fox Film Corporation (a sefydlwyd gan William Fox ym 1915) a Twentieth Century Pictures (a ddechreuwyd gan Darryl F. Zanuck, Joseph Schenck, Raymond Griffith a William Goetz ym 1933 gyfuno.
Mae rhai o ffilmiau enwocaf 20th Century Fox yn cynnwys y cyfresi Star Wars, Ice Age, X-Men, Die Hard, Alien, Night at the Museum, Home Alone, Predator, The Rocky Horror Picture Show a Revenge of the Nerds.