Achosiaeth
Enghraifft o: | type of relation |
---|---|
Math | perthynas |
Y gwrthwyneb | atal |
Rhan o | rhesymeg, multiple causes |
Yn cynnwys | cause, consequent, effaith |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Perthynas neu weithrediad achos ac effaith yw achosiaeth.[1] Mae'n bwnc hollbwysig ym meysydd rhesymeg, athroniaeth, a gwyddoniaeth.
Aristotlys yw'r man cychwyn i achosiaeth yn athroniaeth Ewropeaidd. Nododd yr hen Roegwr bedwar math o achos: effeithlon, terfynol, materol, a ffurfiol. Er enghraifft, mae'r cerflunydd (effeithlon) yn cerfio marmor (materol) i greu gwrthrych gorffenedig (terfynol) sy'n meddu nodweddion cerflun (ffurfiol).
Gwadodd David Hume bod yr achos yn angenrheidiol i resymeg a nododd ei fod yn amhosib i brofi achosiaeth.[2] Er ei ddadl anatebadwy, a dylanwad yr empiryddion, mae'r mwyafrif o athronwyr a gwyddonwyr yn cydnabod ambell ragosodiad a priori, megis y ddeddf achos. Mynodd Immanuel Kant taw un o'r categorïau sylfaenol er mwyn deall ein byd yw'r achos; mae eraill yn ffafrio damcaniaeth fecanyddol ar achosiaeth. Fodd bynnag: heb rhyw ffurf ar benderfyniaeth, nid yw'r gwyddorau yn bosib. Rhagdybiaeth yr achosiaeth benderfyniadol sydd wrth wraidd pob damcaniaeth wyddonol, ac eithrio mecaneg cwantwm a goblygiadau'r egwyddor ansicrwydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ achosiaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 1 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) David Hume: Causation, Internet Encyclopedia of Philosophy. Adalwyd ar 2 Ionawr 2017.