Content-Length: 94225 | pFad | http://cy.wikipedia.org/wiki/Albert_Westhead_Pryce-Jones

Albert Westhead Pryce-Jones - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Albert Westhead Pryce-Jones

Oddi ar Wicipedia
Albert Westhead Pryce-Jones
Ganwyd26 Mai 1870 Edit this on Wikidata
Cymru, y Drenewydd Edit this on Wikidata
Bu farw17 Awst 1946 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpêl-droediwr, rheolwr pêl-droed, diwydiannwr, milwr Edit this on Wikidata
TadPryce Pryce-Jones Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auC.P.D. Y Drenewydd Edit this on Wikidata

Cyn ŵr busnes a phêl-droediwr Cymreig oedd Albert Westhead Pryce-Jones OBE (26 Mai 187017 Awst 1946). Llwyddodd i ennill Cwpan Cymru gyda'r Drenewydd yn ogystal ag ennill 1 cap dros Gymru ym 1895.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Roedd Pryce-Jones yn fab i Syr Pryce Pryce-Jones, perchennog busnes gwerthu drwy'r post y Royal Welsh Warehouse ac Aelod Seneddol Bwrdeistref Trefaldwyn. Cafodd Pryce-Jones ei addysg yn Ysgol Amwythig lle roedd yn gricedwr a phêl-droediwr o fri.[1] Ym 1889 aeth i astudio yng Ngholeg Clare, Caergrawnt lle cynrychiolodd Prifysgol Caergrawnt mewn pêl-droed a tenis yn ogystal â bod yn gapten ar dîm criced y Coleg.[1]

Gyrfa bêl-droed

[golygu | golygu cod]

Ar ôl gadael y Brifysgol, ymunodd Pryce-Jones â'i frawd, William Ernest Pryce-Jones yn nhîm Y Drenewydd ac roedd y ddau yn rhan o'r tîm drechodd Wrecsam yn rownd derfynol Cwpan Cymru ym 1894-95[2] ac yn yr un tymor casglodd ei unig gap rhyngwladol wrth chwarae dros Gymru mewn gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Lloegr yn y Queen's Club, Llundain.[3]

Bywyd busnes

[golygu | golygu cod]

Ar ôl gadael y Brifysgol, ymunodd â busnes ei dad yn Y Drenewydd. Roedd Pryce-Jones hefyd yn aeod o'r Fyddin Diriogaethol fel swyddog yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.[4]. Ym 1911 symudodd i Calgary yng Nghanada ym 1911 er mwyn sefydlu cangen o'r RWW yn y ddinas a cheisio disodli'r Hudson Bay Company fel prif fusnes masnachol yr ardal.[4][5]

Aeth y busnes yng Nghanada i'r wal pan adawodd Pryce-Jones er mwyn dychwelyd i Brydain Fawr er mwyn brwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[5]

Rhyfel Byd Cyntaf

[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf cododd Pryce-Jones fataliwn lleol yn Calgary er mwyn hwylio i ymladd dros yr Ymerodraeth. Gadawodd yr 113th Lethbridge (Calgary) Highlanders am Loegr ym mis Medi 1916 ond oherwydd colledion enbyd yn ystod y brwydro yn Ffrainc cafodd y bataliwn ei rannu rhwng sawl bataliwn Canadaidd arall.[4][6]

Bu farw ei fab, Reginald 'Rex' Pryce-Jones, yn ystod Brwydr y Somme ar 18 Tachwedd 1916.[7]

Ymddeoliad

[golygu | golygu cod]

Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, bu Pryce-Jones yn byw yn Llundain cyn symud i fyw i'r Ariannin ym 1938, lle bu farw ym 1946.[1]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Ei frodyr:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Davies, Gareth M.; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. t. 171. ISBN 1 872424 11 2.
  2. "Welsh Cup Final 1894-95". Welsh Football Data Archive. welshsoccerarchive.co.uk.
  3. "England 1-1 Wales". eu-football.info.
  4. 4.0 4.1 4.2 Jackson, Jasmin (2006). On the Way!. Trafford Publishing. t. 51. ISBN 1412031397.
  5. 5.0 5.1 "Canadian Museum of History". Canadian Museum of History.
  6. "Colonels of the Canadian Expeditionary Force: The Welshman". Patriots, Crooks and Safety Firsters.
  7. "Rex Pryce-Jones". Canadian Virtual War Memorial. Veterans Affairs Canada.








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: http://cy.wikipedia.org/wiki/Albert_Westhead_Pryce-Jones

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy