Allgo
Allgo | |
---|---|
Ganwyd | 600 Llanallgo |
Bu farw | 660 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Dydd gŵyl | 27 Tachwedd |
Tad | Gildas |
Sant o Gymru oedd Allgo neu Gallgo (Lladin: Allectus) (bl. 6g). Fe'i cysylltir â phlwyf Llanallgo ger Moelfre ar Ynys Môn.[1] Mae ei ddydd gŵyl ar 27 Tachwedd.[2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd Allgo yn frawd i Sant Eugrad, sefydlydd Llaneugrad ym Môn, ac yn un o feibion Gildas fab Caw yn ôl yr achau traddodiadol a elwir yn Bonedd y Saint. Fel ei frawd Eugrad, dywedir iddo gael ei ddysgu gan Sant Illtud yn ei glas enwog yn Llanilltud Fawr ym Morgannwg a hefyd, yn ôl rhai ffynonellau, yn Llancarfan.[1]
Cysegrwyd eglwys plwyf Llanallgo yng ngogledd-ddwyrain Ynys Môn i Allgo. Mae'n gapel dan eglwys ei frawd yn Llaneugrad.[1] Ceir Ffynnon Allgo ger yr eglwys a gerllaw mae safle Capel y Ffynnon lle arferai'r plwyfolion weddïo i Allgo er cael iachad o anhwylderau; mae lefel uchel o fwyn swlffaidd yn y dŵr.[3]
Roedd gan Peithien, chwaer Allgo ac Eugrad yn ôl rhai ffynonellau, eglwys yn Nghapel Lligwy yn yr un ardal.[1]
Culhwch ac Olwen
[golygu | golygu cod]Ceir cyfeiriad at 'Calcas (Kalcas) fab Caw' fel un o farchogion Arthur yn y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen a thybir mai llygriad o 'Gallgo' ydyw.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 , T.D. Breverton The Book of Welsh Saints (Glyndwr Publishing, 2000).
- ↑ Lives of British Saints; adalwyd 8 Ionawr 2017.
- ↑ Francis Jones, The Holy Wells of Wales.
- ↑ Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1988).