Brwydr Kursk
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 1943 |
Rhan o | Y Ffrynt Dwyreiniol, Eastern European theatre of World War II, yr Ail Ryfel Byd |
Dechreuwyd | 5 Gorffennaf 1943 |
Daeth i ben | 23 Awst 1943 |
Lleoliad | Kursk |
Yn cynnwys | Operation Citadel, Operation Kutuzov, Belgorod–Kharkov offensive operation |
Gwladwriaeth | Yr Undeb Sofietaidd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o frwydrau allweddol yr Ail Ryfel Byd oedd Brwydr Kursk. Hi oedd y frwydr danciau fwyaf erioed, ac yn ystod y frwydr yma y cafwyd y colledion mwyaf mewn un diwrnod mewn brwydr awyr.
Ymladdwyd y frwydr o 4 Gorffennaf hyd 22 Gorffennaf 1943, rhwng byddin yr Almaen a byddin yr Undeb Sofietaidd, gerllaw dinas Kursk yn Oblast Kursk, Rwsia. Roedd gan yr Almaenwyr tua 800,000 o droedfilwyr, 3,000 o danciau a 2,000 o awyrennau, tra'r oedd gan y Fyddin Goch tua 1,3000,000 o droedfilwyr, 3,600 o danciau a 2,400 o awyrennau.
Roedd y frwydr yn rhan o ymosodiad strategol byddin yr Almaen. Er i'r Fyddin Goch ddioddef mwy o golledion na'r Almaenwyr, methodd yr ymosodiad a thorri trwy eu llinellau amddiffynnol. Dyma'r tro olaf i fyddin yr Almaen fedru ymosod yn strategol ar raddfa fawr ar y ffrynt dwyreiniol, ac o hyn ymlaen fe'u gorfodwyd i encilio yn raddol. Gellir felly ystyried Kursk yn un o drobwyntau yr Ail Ryfel Byd.