Content-Length: 103748 | pFad | http://cy.wikipedia.org/wiki/Dannie_Abse

Dannie Abse - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Dannie Abse

Oddi ar Wicipedia
Dannie Abse
Ganwyd22 Medi 1923 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw28 Medi 2014 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, llenor, meddyg ac awdur Edit this on Wikidata
PriodJoan Abse Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Gwobr Cholmondeley, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.dannieabse.com/ Edit this on Wikidata

Bardd yn yr iaith Saesneg, meddyg ac un o awduron cyfoes mwyaf adnabyddus Cymru oedd Daniel Abse CBE neu Dannie Abse (22 Medi 192328 Medi 2014).[1][2]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Abse yn 161 Ffordd yr Eglwyswen, Gabalfa, Caerdydd yr ifancaf o bedwar plentyn i Rudolf Abse, perchennog sinema, a Kate, (née Shepherd) ei wraig. Roedd ei frawd, Leo Abse, yn Aelod Seneddol Pont-y-pŵl a Thorfaen. Roedd ei frawd Wilfred Abse yn seiciatrydd amlwg yn ymarfer yn yr Unol Daleithiau.[3]

Er bod y teulu yn un Iddewig mynychodd Abse ysgol Gatholig Sant Illtyd, Caerdydd. Wedi'r ysgol bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd cyn mynd i Lundain i astudio meddygaeth yng Ngholeg y Brenin.

Priododd Abse a Joan Mercer ym 1951. Roedd Joan Abse yn hanesydd ac awdur nifer o lyfrau gan gynnwys The Music Lover's Literary Companion (1988) a Voices in the Gallery (1986), a ysgrifennwyd ar y cyd a'i gŵr.[4] Bu iddynt dwy ferch ac un mab. Bu farw Joan mewn damwain car ar yr M4 yn 2005.

Cyflawnodd Abse ei Wasanaeth Cenedlaethol fel meddyg yn yr Awyrlu Brenhinol.

Wedi ymadael a'r awyrlu bu'n gweithio fel meddyg a oedd yn arbenigo yn anhwylderau'r frest. Parhaodd i weithio fel meddyg hyd 1989, ac wedi ymddeol rhoddodd ei amser i ysgrifennu, perfformio a golygu.[1]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Barddoniaeth

[golygu | golygu cod]
  • After Every Green Thing (1949)
  • Poems, Golders Green (1962)
  • Funland and Other Poems (1973)
  • One-legged on Ice (1983)
  • Ask the Bloody Horse (1986)
  • White Coat, Purple Coat: Collected Poems 1948-1988 (1989)
  • Be seated, thou: poems 1989-1998 (1999)
  • Running Late (2006)
  • New and Collected Poems (2008)

Hunangofiant

[golygu | golygu cod]

Eraill

[golygu | golygu cod]
  • Ash on a Young Man's Sleeve (1954)
  • Some Corner of an English Field (1956)
  • A Poet in the Family
  • The Presence (2007)

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw Abse yn Llundain ar 28 Medi 2014. Roedd yn gefnogwr hirdymor i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd a chafodd ei farwolaeth ei nodi gan ffotograff ac erthygl yn rhaglen y clwb a chyhoeddiad hanner-amser yn y gêm gartref gyntaf ar ôl iddo farw. Plannwyd coeden er anrhydedd iddo yng ngardd goffa'r clwb yng ngwanwyn 2015.[5]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: http://cy.wikipedia.org/wiki/Dannie_Abse

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy