Dyddiadur C.E.M. Edwards, Dolserau, Dolgellau
Mae Dyddiadur C. E. M. Edwards, Dolserau, Dolgellau am hela a physgota un gan un o fan buddugion Sir Feirionnydd, yn Oes Fictoria.
Dyddiadur hela a physgota un gan fan fonheddwyr o Ddolgellau, deiliad Dolserau Hall ar gyrion y dref. Cynhwysa gofnodion Oes Fictoria hyd ddiwedd y ganrif, covnodion manwl, os ailadroddus braidd, am y tywydd, cyflwr y dŵr a'r ucheldir o safbwynt pysgotwr a saethwr. Ceir rhai sylwadau difyr am agweddau ac amgylchiadau bywyd bonedd y cyfnod.
Dyddiadur Edwards fel Cofnod Amgylcheddol
[golygu | golygu cod]I ni heddiw mae Edwards yn ymddangos nid yn unig yn freintiedig dros ben ac yntau â’r holl amser i’w roi i‘w weithgareddau a oedd ond o ychydig fudd, ond hefyd yn obsesiynnol yn ei ymlyniad iddynt ddydd ar ôl dydd, yn aml o fore gwyn tan nos. Mor llawn oedd ei gofnodion, ac mor ddiwyd a disgybledig ydoedd (bargyfreithiwr ydoedd wrth ei alwedigaeth) mae’n anodd deall sut cafodd yr amser i gofnodi’r fath fanylion mor rheolaidd. Cymer cryn amser i ‘odro’r’ testun yn llawn o’r hyn sydd ganddo i’w gynnig.
Roedd y gweithgareddau a gofnododd yn ei Sporting Diary yn adlewyrchiad nid yn unig o ecoleg a ffrwythlondeb ei gynefin (roedd yn sylwedydd treiddgar ar ei gynefin) ond hefyd o’i fywyd proffesiynol a chymdeithasol a gystadleuai i rhyw raddau gyda’i fywyd hela. Oherwydd hynny, er cystal eu safon, nid yw’n bosibl i lwyr wahanu arwyddocad amgylcheddol ei gofnodion oddi wrth ei fywyd ‘arall’. Fodd bynnag gellir gweld rhai tueddiadau breision o ddehongli prif ergydion ei gofnodion.
Pysgota
[golygu | golygu cod]A bwrw ei bod yn bosibl adnabod cofnodion pysgota Edwards wrth ei air am frithyll (trout; pysgodyn mwyaf cyffredin ei gyfnod mewn afon a llyn) gellir gweld patrwm tymhorol pendant yn y weithgaredd hon.
Mis Awst oedd y mis iddo dreulio’r mwyaf o ddyddiau yn pysgota [1] yn y cyfnod 1871-1883 (ac ym mis Mai y treuliodd y nifer lleiaf). Nid oes cofnodion pysgota o gwbl rhwng Tachwedd a Ionawr nac am y flwyddyn 1874 gyfan.
- Afonydd
Daliodd y nifer mwyaf o frithyll afon ym mis Awst ar yr afon Wnion, sef yr afon agosaf i’w gartref Dolserau, Hynny yw cyfanswm o 1,433 dros y cyfnod (71% o holl bysgod afonydd Mawddach, Eden ac Wnion). Ymweliadau achlysurol yn unig a wnaeth i afonydd fel y Ddyfrdwy a’r Dysynni. Pwysleisir nad mesur syml o gynnyrch cymharol yr afonydd dan sylw yw hyn (er fod elfen o hynny yn y data) ond o weithgarwch dewisedig gan y dyddiadurwr.
- Llynnoedd
Llyn Myngil (Talyllyn yn ei derminoleg ef) oedd y llyn a fynychai amlaf (132 o ymweliadau [2]) ond talodd ymweliadau achlysurol â llynnoedd eraill ei fro, sef (yn nhrefn disgynnol ei boblogrwydd iddo) Cynwch (Cynwych yn ei derminoleg gwallus ef), Aran, Llynnoedd Cregennen (Crogennan), Clywedog a Cadair. Ceir manylion am y pysgod a ddaliodd yn Llyn Cynwch ar y dudalen honno, yn benodol am y draenogyn dŵr croyw.