Dyddiadur John Henry Hughes, Bronllwyd Bach, Botwnnog, Gwynedd
Enghraifft o: | dyddiadur |
---|
Ganwyd John Henry yn 1927 yn Bronllwyd Bach, Botwnnog, yn unig fab i Richard ac Annie Hughes. Roedd ei dad yn drydedd genhedlaeth i ffermio y tyddyn 24 erw, Bronllwyd Bach, a’i fam yn hannu o Ty Canol, Llangwnadl. Cafodd ei enwi ar ôl brawd ei dad oedd wedi ei golli yn Y Rhyfel Mawr, a roedd ei fam hefyd wedi colli brawd yn ystod y rhyfel. Nid oedd ei rieni felly yn awyddus iddo ymuno a’r fyddin a gan nad oedd Bronllwyd Bach yn ddigon mawr i gadw dau weithiwr ar y tir cafodd John waith ar ddwy fferm gyfagos, Gelliwig a Ty Engan, gan helpu allan ar y fferm drws nesaf sef Bronllwyd Fawr yn ôl y galw. Am gyfnod yn ystod Yr Ail Ryfel Byd bu hefyd yn ‘cario post’.
Roedd cyfnod ei fagwraeth yn un anodd ar ffermio a byddai ei dad yn creu ychydig o incwm ychwanegol trwy ddal cwnhingod a’i gyrru i Lerpwl ddwywaith yr wythnos ar lori garej Sarn. Yn dilyn y rhyfel death John adref i weithio gyda’i dad gan helpu yn achlysurol ar fferm Bronllwyd Fawr yn gyfnewid am ddefnydd ambell beiriant.
Yn 1951 priododd a Dilys, merch Owen Gryffudd, a Kate Williams, Hen Bandy, Y Ffor. Gweithiai Dilys yn siop Pollecoff ym Mhwllheli. Ymgartefodd y ddau mewn ystafelloedd gyda Miss Alice Owen, Minafon, Botwnnog. Maes o law symudodd y ddau i dy rhent, Onllwyn, Botwnnog a ganwyd mab iddynt, Geraint yn 1959. Ar ddechrau yr 1960 cyfnewidiodd John, Dilys a Geraint dŷ gyda Richard ac Annie, gan symud i fyw, ac i ffermio Bronllwyd Bach. Erbyn hyn roedd y byd amaeth wedi gwella a cedwid gwartheg godro a ieir gan ddechrau cadw ymwelwyr tua canol y chwedegau. Ychwanegwyd tir cyfagos yn 1976.
Bu John a Dilys yn ffermio hyd at briodas Geraint a Marian yn 1988 ac iddynt ymgartrefu yn Bronllwyd Bach. Symudodd John a Dilys i fyw i Erw Wen, Botwnnog ond byddai John yn dal i helpu i redeg y fferm gan fod Geraint yn gweithio fel athro.
Dirywiodd iechyd John yn ystod blynyddoedd cyntaf y Ganrif a bu farw yn mis Chwefror 2010, mae Dilys erbyn hyn wedi ymgartrefu yng Nghartref Preswyl, Plas Madryn, Morfa Nefyn. Mae Geraint a Marian yn dal yn ffermio yn Bronllwyd Bach, a ganwyd iddynt ddau blentyn, Mared a Tomos. (Geraint Hughes, ysgrif dyddiedig Rhagfyr 2020)
Y Dyddiaduron
[golygu | golygu cod]Bywyd fferm pob dydd yw cynnwys mwyaf y dyddiaduron. Mae'r cofnodion yn syml ac o ran y rhai cynnar, mae'n bosib gweld rhod y tymhorau yn glir yn y cofnodion. Wrth reswm hefyd cofnodir y tywydd yn aml ond nid mor fanwl ag a geir yn nyddiaduron llawer o'i gyfoedion. Dyma grynodeb o'i waith beunyddiol yn y ddwy flynedd y bu'n cofnodi yn 1944 (blwyddyn cynderfynnol y rhyfel) ac 1948, wedi eu codi o'r dyddiadur gwreiddiol. Nodir mewn cromfachau yr hyn a dybir ond na chafodd ei ddweud yn benodol. Trefnir yr eitemau yn fras yn ôl y nifer o ddyddiau y’u cofnodwyd. Mae'r nifer o ddyddiau y cofnodwyd pob gweithgaredd mewn cromfachau sgwar
- 1944
Ionawr: aredig (ee. y tyndir), dyrnu (ŷd) a trapio (cwningod) Chwefror: aredig yn bennaf a dyrnu Mawrth: aredig yn bennaf, rhychu (at datws), plannu yn yr ardd a dyrnu Ebrill: gosod tatws a rhychu, hau a hadu (gwahaniaetha rhwng rhain heb esboniad), dyrnu a teilo. Plannu yn yr ardd Mai: llafurio (dim manylion), drilio a hau (hadau), rhychu a troi (cyfystyr ag aredig?) Mehefin: cario gwair (heb son am dorri’n gyntaf) a hau Gorffennaf: torri a cario gwair yn unig Awst: torri a chario ŷd a chario gwair. Torri brwyn. Medi: cario gwair a cario a rhwymo ŷd, tynnu tatws, dal cwningod, dyrnu a hel afalau Hydref: dyrnu yn unig trwy’r mis Tachwedd: tynnu mangls a thatws Rhagfyr: dim cofnodion
- 1948
Ionawr: dim cofnodion Chwefror: cau[5] (trwsio cloddiau?) a weirio (gosod ffensus?), aredig, teilo, gwellt (bwyd neu wely), aredig, twll chwarel, caterpillar Mawrth: weirio, chwalu[3] tail[3], hau llwch, Basig Slag, drilio (hadau), dyrnu, tatws , tractor, heffar Ebrill: hau[6] (yn cynnwys calch a Basig Slag), tatws, plannu pys ac ati yn yr ardd, nol cwt ieir, gwellt Mai: ‘Pen tymor’ 12-20 Mai, teilo[2], hel cerrig, ‘mangs’[2] (mangles) a rwdins, drilio (hadau) Mehefin: priddo tatws, scyfflio ( ) a hofio sweds, mangs, calch, trwsio stage laeth, tynnu dail tafol, barbio (??) yn yr ardd Gorffennaf: torri[4] a chario [10] (gwair), crybinion, chwalu calch Awst - 17ain ymlaen: cario gwair [1] a thorri’r[9] ŷd[3] Medi: torri [1] a chario [8] ŷd [6], rhwymo a stycio[3] (ŷd), barbio, teilo Hydref: tynnu[7] tatws[10], dyrnu[8], barbio Tachwedd: tynnu[6]neu codi tatws[5], agor[6] ffos[5] neu draeniau, teilo[3], gosod pywliau[2], dyrnu, mangs. Rhagfyr: agor[8] ffos[8], cau[6] (cloddiau), dyrnu[3], tas wair[2], chwalu tail, nol gwellt a sgrwff, buwch at y tarw, barbio, mangs, rwdins