Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1970
Enghraifft o: | Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dyddiad | 18 Mehefin 1970 |
Rhagflaenwyd gan | Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1966 |
Olynwyd gan | Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, Chwefror 1974 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cynhaliwyd Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig ar 18 Mehefin 1970. Enillwyd yr etholiad yn annisgwyl gan y Blaid Geidwadol dan Edward Heath, er fod bron pob arolwg barn cyn yr etholiad wedi dangos y Blaid Lafur, dan Harold Wilson ar y blaen. Collodd y Blaid Ryddfrydol, dan Jeremy Thorpe, hanner ei seddau. Cafodd y Ceidwadwyr, gydag Unioliaethwyr Wlster, fwyafrif o 31.
Yng Nghymru, ymladdodd Plaid Cymru am y tro cyntaf bob un sedd yng Nghymru (36) a chynyddu ei phleidlais i 175,016, sef 15.5% o'r pleidleisiau. Serch hynny methodd ag ennill un sedd. Collodd Gwynfor Evans y sedd yr oedd wedi ei hennill yn Is-etholiad Caerfyrddin, 1966. Enillodd S. O. Davies sedd Merthyr Tudfil fel Llafur Annibynnol, wedi i'r Blaid Lafur yn yr etholaeth benderfynu fod angen ymgeisydd iau.
Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1970 | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Plaid | Seddi | Pleidleisiau | % | |||||