Glastonbury
Math | plwyf sifil, tref, tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Mendip |
Poblogaeth | 8,932, 8,932, 8,980 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad yr Haf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.1475°N 2.7175°W |
Cod SYG | E04008561 |
Cod OS | ST501390 |
Cod post | BA6 |
Tref a phlwyf sifil yng Ngwlad yr Haf, De-orllewin Lloegr, yw Glastonbury.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Mendip.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 8,932.[2]
Mae Caerdydd 48.9 km i ffwrdd o Glastonbury ac mae Llundain yn 185.8 km. Y ddinas agosaf ydy Wells sy'n 7.2 km i ffwrdd.
Yr hen enw Cymraeg ar y lle oedd Ynys Wydrin neu Ynys Wydr,[3] efallai oherwydd i'r "Glas" yn yr enw gael ei gam-gyfieithu i olygu "gwydyr".
Cysylltir Glastonbury a'r chwedl am Joseff o Arimathea yn dwyn y Greal Santaidd i Ynys Brydain, ac a'r chwedlau am y brenin Arthur. Yn 1191, cyhoeddwyd fod mynachod Abaty Glastonbury, wrth ail-adeiladu rhan o'r abaty yn dilyn tân yn 1184, wedi cael hyd i fedd gyda thair arch ynddo. Ar un arch roedd croes o blwm gyda'r arysgrif :
- HIC JACET SEPULTUS INCLITUS REX ARTURIUS IN INSULA AVALONIA
"Yma y gorwedd yr enwog frenin Arthur yn Ynys Afallon".
Yn yr arch roedd gweddillion gŵr 2.40 medr o daldra. Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai twyll oedd hyn.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 27 Awst 2021
- ↑ City Population; adalwyd 28 Awst 2021
- ↑ John Davies, Hanes Cymru (Penguin, 1990), tud. 205
Dinasoedd
Caerfaddon • Wells
Trefi
Axbridge • Bridgwater • Bruton • Burnham-on-Sea • Castle Cary • Chard • Clevedon • Crewkerne • Dulverton • Frome • Glastonbury • Highbridge • Ilminster • Keynsham • Langport • Midsomer Norton • Minehead • Nailsea • North Petherton • Portishead • Radstock • Shepton Mallet • Somerton • South Petherton • Taunton • Watchet • Wellington • Weston-super-Mare • Wincanton • Wiveliscombe • Yeovil