Content-Length: 101234 | pFad | http://cy.wikipedia.org/wiki/Glynrhedynog

Glynrhedynog - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Glynrhedynog

Oddi ar Wicipedia
Glynrhedynog
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,019 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6577°N 3.4459°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000683 Edit this on Wikidata
Cod OSST000964 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElizabeth (Buffy) Williams (Llafur)
AS/au y DUChris Bryant (Llafur)
Map

Tref a chymuned yng Nghwm Rhondda ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf yw Glynrhedynog[1] (ac yn llai cywir ei orgraff, Glyn Rhedynog) (Saesneg: Ferndale).[2] Trerhondda oedd yr enw gwreiddiol, ar ôl enw capel yr Annibynwyr a godwyd yno yn 1867. "Glynrhedynog" yw enw hen fferm a fu lle y mae'r pentre heddiw. Trosiad llac o'r enw Cymraeg yw'r Saesneg "Ferndale".). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 4,419.

Saif Trerhondda rhwng Maerdy a Phendyrus. Dechreuodd y diwydiant glo yna yn 1857, a Threrhondda oedd y pentref diwydiannol cyntaf yng Nghwm Rhondda. Bu dwy drychineb fawr yn y lofa yma yn y 19g, y gyntaf ar 8 Tachwedd 1867, pan laddwyd when 178 o lowyr. Ar 10 Mehefin 1869, bu ffrwydrad arall yma, a lladdwyd 53.

Y mae yno Ysgol Gymraeg Llyn y Forwyn.

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 7 Rhagfyr 2021
Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: http://cy.wikipedia.org/wiki/Glynrhedynog

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy