John Harries
John Harries | |
---|---|
Ganwyd | 1785 Cwrt-y-cadno |
Bu farw | 11 Mai 1839, 1839 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | astroleg, meddyg |
Plant | Henry Harries |
Dewin, neu Ddyn Hysbys oedd y 'Doctor' John Harries (1785 – 11 Mai 1839),[1] Cwrt-y-cadno, a ddaeth yn adnabyddus trwy Gymru ar ddiwedd y 18g a dechrau'r ganrif olynol. Gallai wella afiechydon o bob math, tawelu ysbrydion drwg a darogan y dyfodol. Credid fod ganddo lyfr o swynion.[2]
Hanes
[golygu | golygu cod]Brodor o bentref bychan Cwrt-y-cadno, ym mhlwyf Caio, Sir Gaerfyrddin oedd John Harries. Cafodd ei eni yno yn 1785. Dywedir y bu ei fab Henry yn ddewin hefyd, a astudiodd dan ddewin arall o'r enw 'Raphael' yn Llundain cyn dychwelyd i Gwrt-y-cadno i weithio gyda'i dad; ymddengys felly fod traddodiad teuluol o fod yn ddewiniaid.[3]
Roedd Harries yn ddyn dysgedig a ganddo lyfrgell sylweddol a oedd yn cynnwys llyfrau Groeg, Lladin Saesneg a Ffrangeg. Roedd ganddo sawl llawysgrif yn cynnwys un yn ei ysgrifen ei hun o dros bum cant o gyfarwyddiadau meddygol traddodiadol (fe'i ceir heddiw fel 'Llawysgrif Cwrtmawr MS 97A' yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru).[4][5]
Credai pobl yr ardal fod gan John Harries lyfr o swynion o ryw fath, neu 'Lyfr Cyfrin', a chredai rhai y byddai yn ei ymgynghori unwaith bob blwyddyn pan adnewyddai ei gontract gyda'r Diawl. Dywedid y byddai Harries a rhai o'i gyfeillion yn mynd i goedwig a thynnu cylch yn y ddaear a darllen swynion o'r 'Llyfr Cyfrin'.[6]
Ymosododd crefyddwyr y cyfnod yn dost ar Harries a Dynion Hysbys eraill. Un o feirniaid ffyrnicaf Harries ei hun oedd yr eglwyswr David Owen (Brutus). Dyma sydd ganddo i'w ddweud am y Llyfr Cyfrin enwog:
- Gyda golwg ar y llyfr rhyfeddol hwn, dywedir mai ystyllod trwchus ydyw ei gloriau, ac amdano gadwyn haiarn, a thri chlo egwyd. Dyweda eraill mai gwden sydd am gloriau y llyfr rhyfedd hwn, ac un clo egwyd; ond cytunir fod yno lyfr o bwys mawr a cymaint ei faintioli â Bibl Eglwys; a'i fod wedi ei rwymo â chadwyn haiarn neu brad a chlo arni.[7]
Bu farw John Harries yn 1839 yn 54 oed. Yn ôl yr hanes, roedd wedi rhagweld diwrnod ei farwolaeth ei hun ac felly arhosodd yn y gwely i geisio osgoi ei ffawd, ond aeth y tŷ ar dân a llosgwyd Harries i farwolaeth. Dywedir fod y dynion a gariodd ei arch i'r fynwent wedi teimlo'r baich yn ysgafnhau wrth iddynt nesáu at yr eglwys "nes mynd mor ysgafn ag arch wag": bernid mai'r rheswm oedd bod y Diawl wedi meddiannu'r corff fel roedd eisoes wedi gwneud gyda'r enaid.[8]
Etifeddiaeth
[golygu | golygu cod]Ceir sawl llawysgrif gan John Harries yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn cynnwys cyfarwyddiadau meddygol traddodiadol a swynion, a chopi o ddaroganau 'Nostradamus' a llyfrau printiedig eraill, ond does dim sôn am ei 'Lyfr Cyfrin' enwog.
Yn 1988, ffilmiwyd y ddrama ddogfen Dilyn y Ddraig. Dewin Cwrt-Y-Cadno gan BBC Cymru ar gyfer S4C. Mae copi fideo ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar gais.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Isaac Evans, Coelion Cymru (Aberystwyth, 1938), tud. 136.
- ↑ Kate Bosse Griffiths, Byd y Dyn Hysbys (Y Lolfa, 1977), tt. 38-43.
- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.e. Harries, John.
- ↑ Isaac Evans. Coelion Cymru (Aberystwyth, 1938), tud. 136.
- ↑ https://www.llgc.org.uk/fileadmin/fileadmin/docs_gwefan/ymweld_a_ni/darllen_yn_llgc/dar_taf_llawysgrifau_150330D.pdf
- ↑ Byd y Dyn Hysbys (Y Lolfa, 1977), tud. 40.
- ↑ Byd y Dyn Hysbys (Y Lolfa, 1977), tud. 39.
- ↑ Coelion Cymru, tud. 135.
- ↑ LlGC: chwiler 'Dilyn y Ddraig'
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- J. H. Davies, Rhai o Hen Ddewiniaid Cymru (1901).
- Kate Bosse Griffiths, Byd y Dyn Hysbys (Y Lolfa, 1977). Pennod: 'Llyfr Cyfrin y Dyn Hysbys'.