Manon Antoniazzi
Manon Antoniazzi | |
---|---|
Ganwyd | 15 Ebrill 1965 Caerdydd |
Man preswyl | Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Addysg | Doethur mewn Athrawiaeth |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwas sifil |
Cyflogwr |
Gwas sifil yw Dr Manon Antoniazzi (ganwyd 15 Ebrill 1965) sydd yn Brif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru ers Ebrill 2017.
Ganwyd Manon Jenkins yn ferch i Emyr Jenkins, cyn drefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n chwaer hŷn i Ffion Hague. Aeth i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt ac yna Coleg yr Iesu, Rhydychen. Wedi graddio aeth ymlaen i wneud PhD ar Gerddi Proffwydol Canolesol Cymreig.[1]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Roedd ei swydd gyntaf gyda Dŵr Cymru yn ysgrifennu polisîau dwyieithog.[1] Rhwng Gorffennaf 1991 a Rhagfyr 1993 bu'n gweithio fel Pennaeth y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus yn S4C. Yn 1994 daeth yn Ysgrifennydd Preifat y Tywysog Siarl a chyfrifoldeb dros Gymru. Yn 1999 symudodd yn ôl i Gymru gan weithio yn adran gyfathrebu Cynulliad Cenedlaethol, corff oedd newydd ei sefydlu. Ymunodd â BBC Cymru yn Medi 2000 fel Ysgrifennydd a Phennaeth Materion Cyhoeddus ac yna Pennaeth Materion Cyhoeddus, Gwledydd a Rhanbarthau yn 2003.
Dychwelodd i swydd Ysgrifennydd Preifat y Tywysog Siarl rhwng Rhagfyr 2004 a Gorffennaf 2012. Aeth ymlaen i swydd Prif Weithredwr Croeso Cymru[2]. O Ebrill 2017 dilynodd Claire Clancy fel Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru.[3]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd John Antoniazzi yn 2014 ac mae'r ddau yn byw yng Nghaerdydd. Mae ganddi ferch, Indeg.[4]
Swyddi
[golygu | golygu cod]Cynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Claire Clancy |
Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2017–presennol |
Olynydd: deiliad |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Anglo-Saxon, Norse and Celtic Alumni Newsletter, ASNC (5 Awst 2012). Adalwyd ar 25 Ionawr 2017.
- ↑ (Saesneg) Proffil LinkedIn. LinkedIn. Adalwyd ar 25 Ionawr 2017.
- ↑ Manon Antoniazzi fydd Prif Weithredwr a Chlerc nesaf y Cynulliad , BBC Cymru Fyw, 25 Ionawr 2017.
- ↑ Business figures fly the flag for Wales at their wedding in Italy (en) , Wales Online, 29 Ebrill 2014. Cyrchwyd ar 25 Ionawr 2017.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Genedigaethau 1965
- Cyn-fyfyrwyr Coleg Sant Ioan, Caergrawnt
- Cyn-fyfyrwyr Coleg yr Iesu, Rhydychen
- Gweision sifil o Gymru
- Merched a aned yn y 1960au
- Merched yr 20fed ganrif o Gymru
- Merched yr 21ain ganrif o Gymru
- Pobl addysgwyd yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf
- Pobl a aned yng Nghaerdydd
- Prif weithredwyr o Gymru