Mathonwy
Mae Mathonwy yn gymeriad chwedlonol sy'n rhiant Math fab Mathonwy ym Mhedwaredd Cainc y Mabinogi.
Mae'r elfen gyntaf yn yr enw Mathonwy, sef Math-, yn digwydd yn enw'r mab Mathonwy ac enw Matholwch, un arall o gymeriadau'r Mabinogi, a cheir enghreifftiau gyffelyb yn y Wyddeleg, e.e. Mathgambhain. Mae rhai ysgolheigion wedi dadlau fod yr enw Cymraeg Canol (a'r cymeriad ei hun) yn tarddu o'r Wyddeleg a thraddodiadau Iwerddon, onc ceir y ffurf Matto(n) yn yr Aleg, iaith Geltaidd Gâl.
Ffigwr annelwig yw Mathonwy. Mae lle i gredu fod Mathonwy yn gymeriad benywaidd ac yn fam i Fath yn hytrach na'i dad ac felly mae Mathonwy yn etifeddu teyrnas Gwynedd trwy ei fam. Yn yr un modd mae Gwydion yn fab i'r dduwies Dôn. Yn y Pedair Cainc nid yw Mathonwy yn cymryd unrhyw ran uniongyrchol yn y stori ond yn aros yn y cefndir.
Ceir y cyfeiriad cynharaf at Fathonwy sydd ar glawr mewn cerdd a briodlir i Daliesin yn Llyfr Taliesin:
- Odit a'e gwypwy,
- Hutlath Vathonwy,
- yg koet pan tyfwy.
Gellid esbonio'r cyfeiriad at hudlath Mathonwy fel adlais o'r chwedl yn y Pedair Cainc, lle mae Math yn ddewin gyda hudlath, ond mae'n bosibl fod Mathonwy yn ddewin hefyd.
Fel arall mae'r cyfeiriadau eraill at Fathonwy yn digwydd yn enw'r mab yn unig.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, arg. newydd, 1991)
- W. J. Gruffydd, Math vab Mathonwy (Caerdydd, 1928)