Mick Antoniw
Mick Antoniw AS | |
---|---|
Мік Антонів | |
Llun swyddogol, 2024 | |
Aelod o'r Senedd dros Pontypridd | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 6 Mai 2011 | |
Rhagflaenwyd gan | Jane Davidson |
Mwyafrif | 7,694 (33%) |
Cwnsler Cyffredinol Cymru | |
Deiliad | |
Cychwyn y swydd 13 Mai 2021 | |
Prif Weinidog | Mark Drakeford |
Rhagflaenwyd gan | Jeremy Miles |
Mewn swydd 27 Mehefin 2016 – 14 Tachwedd 2017 | |
Prif Weinidog | Carwyn Jones |
Rhagflaenwyd gan | Theodore Huckle |
Dilynwyd gan | Jeremy Miles |
Manylion personol | |
Ganwyd | 1 Medi 1954 |
Plaid wleidyddol | Llafur Cydweithredol |
Alma mater | Prifysgol Cymru |
Gwaith | Cyfreithwr |
Gwefan | Gwefan Swyddogol |
Gwleidydd Llafur Cymru a Cydweithredol yw Mick Antoniw (ganwyd 1 Medi 1954) sydd wedi bod yn Aelod o'r Senedd dros Bontypridd ers 2011.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Daeth Antoniw i astudio'r gyfraith yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd, Prifysgol Cymru yn 1973.[1] Roedd yn Llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru o 1977 i 1979.[1]
Gyrfa broffesiynol
[golygu | golygu cod]Roedd yn gyfreithiwr, yn arbenigo mewn anafiadau personol, cyn cael ei ethol i'r Senedd. Roedd Antoniw yn bartner gyda Thompsons Solicitors, y cyfreithwyr undeb llafur arbenigol, a dechreuodd ei hyfforddiant gyda nhw yn 1980.[2] Mae Antoniw yn ymddiriedolwr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru.[1][2]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Fe wnaeth Antoniw faethu dwsinau o blant pobl eraill yn y 15 mlynedd cyn ei ethol, gan ddweud, "rwy'n gwybod o fy mhrofiad fy hun o faethu pa mor werthfawr yw hi - ac er ei fod yn gallu bod yn heriol iawn, un peth mae'n dysgu yw pa mor gyflym y gall plant ffynnu pan maent mewn amgylchedd cariadus a gofalgar."[3]
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Yn dilyn ei ethol yn 2011 cynyddodd Antoniw y pleidlais y Blaid Lafur gyda swing o 18.8%. Gyda 11,864 o bleidleisiau, roedd ei gyfran o'r bleidlais dros 50%, gan roi iddo mwyafrif o 7,694 dros ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Mike Powell, a ddaeth yn ail.[4]
Fe'i benodwyd yn Gwnsler Cyffredinol Cymru yn Mehefin 2016,[5] gan orffen yn addrefniad y Cabinet yn Nhachwedd 2017 pan fe'i olynwyd gan Jeremy Miles. Fe'i ail-benodwyd yn Gwnsler Cyffredinol yn dilyn Etholiad 2021.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Mick Antoniw - about me". Mick Antoniw. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-21. Cyrchwyd 12 May 2011.
- ↑ 2.0 2.1 "Mick Antoniw - Pontypridd". Welsh Labour website. Welsh Labour. 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-03. Cyrchwyd 12 May 2011.
- ↑ "'Urgent' for call for foster parents". South Wales Echo.
|access-date=
requires|url=
(help) - ↑ www.walesonline-Labour AM Mick Antoniw accused of blocking employee from attending council meetings
- ↑ Penodi Mick Antoniw yn Gwnsler Cyffredinol. Llywodraeth Cymru (27 Mehefin 2016). Adalwyd ar 27 Mehefin 2016.