Mynydd Feswfiws
Math | llosgfynydd byw, stratolosgfynydd, atyniad twristaidd, mynydd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Vesuvius |
Sir | Dinas Fetropolitan Napoli |
Gwlad | Yr Eidal |
Uwch y môr | 1,281 metr |
Cyfesurynnau | 40.8214°N 14.4256°E |
Amlygrwydd | 1,232 metr |
Cadwyn fynydd | Q3618573 |
Deunydd | tephrite |
Llosgfynydd yn yr Eidal yw Mynydd Feswfiws (Eidaleg: Monte Vesuvio, Lladin: Mons Vesuvius) neu Feswfiws.[1] Saif rhyw 9 km i'r dwyrain o ddinas Napoli. Ef yw'r unig losgfynydd ar dir mawr Ewrop i echdori yn ystod y can mlynedd diwethaf; mae'r ddau losgfynydd arall yn yr Eidal, Etna a Stromboli, ar ynysoedd.
Mae Feswfiws yn fwyaf adnabyddus am y ffrwydrad yn 79 OC, a ddinistriodd drefi Pompeii a Herculaneum. Ffrwydrodd lawer tro ers hynny; bu ffrwydrad yn fawr yn 1944.
Cyhoeddwyd yr ardal o amgylch y mynydd yn barc cenedlaethol ar 5 Mehefin 1995. Mae ffordd sy'n arwain o fewn 200 medr i'r copa, ond wedi hynny rhaid cerdded.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "Vesuvius"