Oblast Kostroma
Math | oblast |
---|---|
Enwyd ar ôl | Kostroma |
Prifddinas | Kostroma |
Poblogaeth | 566,266 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Sergey Sitnikov |
Cylchfa amser | Amser Moscfa, Ewrop/Moscfa |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dosbarth Ffederal Canol |
Sir | Rwsia |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 60,200 km² |
Yn ffinio gyda | Oblast Kirov, Oblast Nizhny Novgorod, Oblast Ivanovo, Oblast Yaroslavl, Oblast Vologda |
Cyfesurynnau | 58.55°N 43.68°E |
RU-KOS | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Governor of Kostroma Oblast |
Corff deddfwriaethol | Kostroma Oblast Duma |
Pennaeth y Llywodraeth | Sergey Sitnikov |
Un o oblastau Rwsia yw Oblast Kostroma (Rwseg: Костромска́я о́бласть, Kostromskaya oblast). Ei chanolfan weinyddol yw dinas Kostroma. Poblogaeth: 667,562 (Cyfrifiad 2010).
Lleolir yr oblast yn ardal weinyddol y Dosbarth Ffederal Canol. Fe'i sefydlwyd ar Awst 13, 1944.
Mae Oblast Kostroma yn rhannu ffin ag Oblast Vologda i'r gogledd, Oblast Kirov i'r dwyrain, Oblast Nizhny Novgorod i'r de, Oblast Ivanovo i'r gorllewin, ac Oblast Yaroslavl i'r gogledd-orllewin. Y prif afonydd yw Afon Volga ac Afon Kostroma. Gorchuddir rhan helaeth yr oblast gan goedwigoedd ac felly mae'n un o'r ardaloedd cynhyrchu pren mwyaf yn Ewrop.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Rwseg) Gwefan swyddogol yr oblast Archifwyd 2010-11-24 yn y Peiriant Wayback