Content-Length: 75399 | pFad | http://cy.wikipedia.org/wiki/Prifysgol_Glynd%C5%B5r

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Prifysgol Glyndŵr)
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam
Sefydlwyd 2008
(1887, fel Ysgol Gwyddoniaeth a Chelf Wrecsam)
Canghellor Colin Jackson
Is-ganghellor Michael Scott
Myfyrwyr 7,410 (2005/2006)[1]
Israddedigion 6,840[1]
Ôlraddedigion 435[1]
Myfyrwyr eraill 135[1]
Lleoliad Wrecsam, Baner Cymru Cymru
Campws Trefol
Tadogaethau Prifysgol Cymru
Gwefan www.glyndwr.ac.uk/cy/

Prifysgol yn Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (Saesneg: Glyndŵr University). Yn cael ei hadnabod cynt fel NEWI (North East Wales Institute of Higher Education), derbyniodd statws prifysgol ar 3 Gorffennaf 2008 ar ôl bod yn aelod o Brifysgol Cymru ers 2003. Cafwyd seremoni i gyhoeddi'r brifysgol newydd yn swyddogol ar 18 Gorffennaf gyda Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn ei llywio ac yn derbyn gradd er anrhydedd gyntaf y brifysgol.[2] Enwir y brifysgol ar ôl Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, a fwriadai sefydlu dwy brifysgol yng Nghymru, un yn y Gogledd a'r llall yn y De, ar ddechrau'r 15g.

Mae Prifysgol Glyn Dŵr bellach wedi gadael Prifysgol Cymru ac yn dyfarnu ei graddau ei hun. Mae'r Brifysgol yn cynnig cyrsiau gradd ac ôl-radd. Yr Is-Ganghellor yw'r Athro Michael Scott. Mae gan y brifysgol tua 8,000 o fyfyrwyr llawn-amser gyda 350 ohonyn nhw yn dod o wledydd tramor.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  Table 0a - All students by institution, mode of study, level of study, gender and domicile 2005/06. Higher Education Statistics Agency online statistics. Adalwyd ar 6 Ebrill 2007.
  2. "Wrexham Evening Leader 18.07.08". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-11. Cyrchwyd 2008-07-20.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Wrecsam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am brifysgol neu addysg uwch. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: http://cy.wikipedia.org/wiki/Prifysgol_Glynd%C5%B5r

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy