Sen Segur
Gwedd
Band roc seicedelig o Benmachno, Bwrdeisdref Sirol Conwy, a greuwyd yn 2010 oedd Sen Segur[1]. Prif aelodau'r band oedd George (y basydd), Ben (y gitarydd a'r prif leisydd), a Gethin (y drymiwr). Ymunodd Dafydd Evans (gitarydd ac allweddau) â'r band ar ôl rhyddhau ei EP gyntaf o'r enw Pen Rhydd. Wedyn ymunodd Alex Morrison o'r band Memory Clinic â Sen Segur i deithio dros Haf 2014, yr haf olaf i'r fand deithio.
Diwrnod ar ôl rhyddau ei albwm cyntaf wnaeth Sen Segur roi neges ar Facebook i gyhoeddi fod y band wedi gorffen.
Disgograffi
[golygu | golygu cod]- Mai 7fed, 2015 Albwm cyntaf 'Ffilms' [1]
- Ionawr 21ain, 2012 'Sudd Sudd Sudd' EP.
- Mai 8fed, 2011 Pen Rhydd (EP) [2]
- Gorffennaf 25ed, 2011 Y Record Goch (finyl 10" gyda Cowbois Rhos Botwnnog, Y Bwgan a Dau Cefn) [3]
- Chwefror 16fed, 2012 Sarah/Nofa Scosia (sengl dwbl) [4] Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback