Sgwrs:Fflorens
Gwedd
Termau bath
[golygu cod]Oes rhaid trosi enwau'r pleidiau Guelfi a Ghibellini o gwbl? Beth am eu gadael mewn italics ac yn yr Eidaleg? Lloffiwr 16:23, 7 Hydref 2007 (UTC)
- Rwyf wedi newid y termau i'r Eidaleg. Mae "Guelffiaid" a "Ghibeliaid" yn edrych fel eu bod wedi'u Cymreigio o'r Saesneg Guelphs a Ghibellines. Digon posib yr oedd bathwr y geiriau yn ymwybodol o enwau Saesneg y pleidiau yn unig, ac heb ystyried edrych eu ffurfiau Eidaleg i fyny.
- Diolch. Lloffiwr 21:56, 22 Hydref 2007 (UTC)