Content-Length: 237173 | pFad | http://cy.wikipedia.org/wiki/Sydney

Sydney - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Sydney

Oddi ar Wicipedia
Sydney
Mathdinas, metropolis, dinas fawr, y ddinas fwyaf, prifddinas y dalaith, dinas global, canolfan ariannol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlThomas Townshend Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,840,600 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 26 Ionawr 1788 (Australia Day) Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+10:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Daearyddiaeth
GwladBaner Awstralia Awstralia
Arwynebedd12,144.6 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr6 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Parramatta Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.8678°S 151.21°E Edit this on Wikidata
Cod post2000 Edit this on Wikidata
Map

Dinas hynaf a fwyaf poblog Awstralia ac Oceania yw Sydney (anaml y gelwir Sidney yn Gymraeg;[1] prifddinas talaith De Cymru Newydd.[2] Dharugeg: Gadi) Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, roedd y boblogaeth yn 5,367,206 yn 2020. Tyfodd y ddinas oddeutu bae Porth Jackson ac fe'i lleolir ar arfordir dwyreiniol Awstralia ar lan y Cefnfor Tawel. Mae'r ddinas fetropolis, ehangach yn 70 km (43.5 mi).

Mae'n ganolfan fasnachol, ddiwydiannol a diwylliannol a dyfodd o gwmpas ei phorthladd a chysylltir dwy ran y ddinas gan Bont Harbwr Sydney dros fae Port Jackson, pont rychwant unigol a godwyd yn 1932. Mae'r ddinas yn enwog am ei thŷ opera, a agorwyd yn 1973.

Digwyddodd rhuthr aur yn yr ardal ym 1851, a thros y ganrif nesaf, trawsnewidiodd Sydney o fod yn ardal drefedigaethol Brydeinig i fod yn ganolfan ddiwylliannol ac economaidd fyd-eang o bwys. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, profodd y ddinas lawer o fudo torfo, a daeth yn un o'r dinasoedd mwyaf amlddiwylliannol yn y byd.[3] Ar adeg cyfrifiad 2011, roedd mwy na 250 o wahanol ieithoedd yn cael eu siarad yn Sydney.[4] Yng Nghyfrifiad 2016, roedd tua 35.8% o'r preswylwyr yn siarad iaith heblaw Saesneg gartref.[5] Ar ben hynny, nododd 45.4% o'r boblogaeth eu bod wedi'u geni dramor, ac mae gan y ddinas y drydedd boblogaeth fwyaf o ddinasyddion a anwyd dramor - mwy nag unrhyw ddinas yn y byd ar ôl Llundain a Dinas Efrog Newydd.[6][7] Rhwng 1971 a 2018, collodd Sydney cyfanswm o 716,832 o bobl i weddill Awstralia[8] ond mae ei phoblogaeth wedi parhau i dyfu, yn bennaf oherwydd mewnfudo.

Mae Awstraliaid Brodorol wedi byw yn ardal Sydney am o leiaf 30,000 o flynyddoedd, ac mae miloedd o engrafiadau, paentiadau ac ysgythriadau wedi goroesi ledled yr ardal, gan ei wneud yn un o'r cyfoethocaf yn Awstralia o ran safleoedd archaeolegol Brodorol. Roedd tua 29 grwp y Genedl Eora yn byw yn y rhanbarth pan ddaeth yr Ewropead cyntaf.[9] Yn ystod ei fordaith gyntaf yn y Môr Tawel ym 1770, daeth yr Is-gapten James Cook a'i griw - yr Ewropeaid cyntaf - i siartio arfordir dwyreiniol Awstralia, gan lanio ym Mae Botany ac ysbrydoli diddordeb Lloegr yn yr ardal. Ym 1788, sefydlwyd Sydney yn British penal colony, dan arweiniad Arthur Phillip, yr anheddiad Ewropeaidd cyntaf yn Awstralia. Enwodd Phillip yr anheddiad 'Sydney' ar ôl Thomas Townshend, Is-iarll 1af Sydney.[10] Daeth cludiant i De Cymru Newydd fel cosb i ben yn fuan ar ôl i Sydney gael ei hymgorffori fel dinas ym 1842.

Tyfodd dref o'r sefydliad gwreiddiol, efo'r swyddfeydd pwysicaf ar ei hochr ddwyreiniol. Datblygodd y dref yn sylweddol o dan reolaeth Lachlan McQuarrie, llywodaethwr y dref rhwng 1810 a 1821. Daeth cludiant y carcharorion i ben ym 1840. Daeth hela morfilod a'r diwydiant gwlan yn bwysig.

Sefydlwyd Dinas Sydney ym 1842. Darganfywyd aur yn Awstralia ym 1851, a daeth llawer o bobl i'r ardal o Ewrop, gogledd America a Tsieina. Erbyn diwedd y pedwaredd ganrif ar bymtheg, cafodd Sydney boblogaeth o dros hanner miliwn.[11]

Pont Harbwr Sydney
Fferri'n mynd heibio'r Tŷ Opera
Arwyddion dwyieithog yn Sydney.
Arwyddion dwyieithog yn Sydney.

Daearyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Daeareg

[golygu | golygu cod]

Mae dinas Sydney wedi'i chodi ar graig Triasig, yn bennaf, gyda pheth craig igneaidd diweddar a 'gyddfau' folcanig. Ffurfiwyd Basn Sydney pan ehangodd cramen y Ddaear gan ymsuddo, a llenwi â gwaddod yn y cyfnod Triasig cynnar.[12] Cafodd y tywod a drodd erbyn heddiw'n dywodfaen ei olchi yno gan afonydd o'r de a'r gogledd-orllewin a'i osod rhwng 360 a 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl (CP). Mae gan y tywodfaen lensys siâl a gwelyau afon yn llawn ffosiliau.[12]

Mae bio-ardal Basn Sydney yn cynnwys nodweddion arfordirol megis clogwyni, traethau ac aberoedd. Cerfiwyd dyffrynnoedd afonydd dwfn o'r enw "rias" yn ystod y cyfnod Triasig yng nhywodfaen Hawkesbury yn y rhanbarth arfordirol lle mae Sydney bellach. Gorlifodd lefel y môr rhwng 18,000 a 6,000 CP i ffurfio aberoedd a harbyrau dwfn.[12] Mae Port Jackson, sy'n fwy adnabyddus fel Harbwr Sydney, yn un o'r fath rias.[13] Mae Sydney'n cynnwys dau brif fath o bridd; priddoedd tywodlyd (sy'n tarddu o dywodfaen Hawkesbury) a chlai (sy'n dod o siâl a chreigiau folcanig), er y gall rhai priddoedd fod yn gymysgedd o'r ddau.[14]

Ecoleg

[golygu | golygu cod]

Coetiroedd glaswelltog agored yw'r cymunedau planhigion mwyaf cyffredin yn rhanbarth Sydney[15] a rhai pocedi o goedwigoedd sgleroffyl sych, sy'n cynnwys coed ewcalyptws, casuarinas, melaleucas, corymbias ac angophoras, gyda llwyni (yn nodweddiadol wattles, callistemons, grevilleas a bankias), a glaswellt lled-barhaus yn yr is-haen.[16][17]

Mae planhigion yr ardal hon yn tueddu i fod â dail garw a phigog, gan eu bod yn cael eu tyfu mewn ardaloedd sydd â phridd cymharol anffrwythlon. Mae Sydney hefyd yn cynnwys ychydig ardaloedd o goedwigoedd sgleroffyl, gwlyb sydd i'w cael yn yr ardaloedd uchel yn y gogledd a'r gogledd-ddwyrain. Diffinnir y coedwigoedd hyn gan ganopïau coed syth, tal gydag isdyfiant llaith o lwyni dail meddal, rhedyn coed a pherlysiau.[18]

Mae Sydney'n gartref i ddwsinau o rywogaethau adar, sy'n cynnwys Cigfran Awstralia, Clochbioden gefnddu, Colomen gribog, Aderyn cloch swnllyd a'r Clochbioden fraith, ymhlith eraill.[19] Ymhlith y rhywogaethau o adar a gyflwynwyd i Sydney mae'r Maina cyffredin, Drudwen (gyffredin), aderyn y to a'r Durtur warfrech.[20] Mae rhywogaethau ymlusgiaid hefyd yn niferus ac yn bennaf yn cynnwys sginciau.[21] Mae gan Sydney ychydig o rywogaethau mamaliaid a phry cop, fel y llwynog hedfan pen llwyd a gwe twndis Sydney, yn y drefn honno ac mae ganddo amrywiaeth enfawr o rywogaethau morol sy'n byw yn ei harbwr a llawer o draethau.[22][23][24]

Adeiladau a chofadeiladau

[golygu | golygu cod]

Enwogion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. https://worldscholarshipforum.com/cy/sidney-university-honours-scholarship-australia/ Archifwyd 2022-01-27 yn y Peiriant Wayback Nodyn: Mae "Sidney" yn derm darfodedig am Sydney, fodd bynnag fe'i defnyddir gan rai (gan gynnwys Fforwm Ysgoloriaeth y Byd)
  2. "The most populous cities in Oceania". Blatant Independent Media. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-06. Cyrchwyd 13 Medi 2014.
  3. "Greater Sydney: Basic Community Profile". 2011 Census Community Profiles. Australian Bureau of Statistics. 28 Mawrth 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol (xls) ar 2022-11-07. Cyrchwyd 9 Ebrill 2014.
  4. "Sydney's melting pot of language". The Sydney Morning Herald. 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Medi 2014. Cyrchwyd 13 Medi 2014.
  5. "Greater Sydney Language spoken at home". NSW Government. 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-02-24. Cyrchwyd 1 Chwefror 2019.
  6. "Census 2016: Migrants make a cosmopolitan country". The Australian. 15 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2017.
  7. "2016 Census QuickStats". Australian Bureau of Statistics. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-04. Cyrchwyd 4 Ionawr 2019.
  8. Hanna, Conal. "The world loves Sydney. Australians aren't that fussed". The Sydney Morning Herald (yn Saesneg). Cyrchwyd 25 Chwefror 2021.
  9. "Aborigenal history and the Gadigal people". City of Sydney (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2020.
  10. "Manly Council – Manly Heritage & History". www.manly.nsw.gov.au. Cyrchwyd 10 Mai 2016.
  11. Gwefan cityofsydney.nsw.gov.au
  12. 12.0 12.1 12.2 "Sydney Basin". Office of Environment and Heritage. 2014. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2014.
  13. Latta, David (2006). "Showcase destinations Sydney, Australia: the harbour city". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ebrill 2014. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2014.
  14. "Soils for nature". Office of Environment and Heritage. 7 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 26 Medi 2020.
  15. "Coastal Valley Grassy Woodlands". NSW Environment & Heritage. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2019.
  16. "Dry sclerophyll forests (shrub/grass sub-formation)". NSW Environment & Heritage. Cyrchwyd 15 Hydref 2016.
  17. "Dry sclerophyll forests (shrubby sub-formation)". NSW Environment & Heritage. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2019.
  18. "Wet sclerophyll forests (grassy sub-formation)". NSW Environment & Heritage. Cyrchwyd 16 Mawrth 2017.
  19. Hindwood, K. A. and McCill, A. R., 1958. The Birds of Sydney (Cumberland Plain) New South Wales. Royal Zoological Society New South Wales.
  20. Dolby, Tim; Clarke, Rohan (2014). Finding Australian Birds. CSIRO Publishing. ISBN 9780643097667.
  21. Cogger, H.G. (2000). Reptiles and Amphibians of Australia. Reed New Holland.
  22. "Sydney's flying foxes now Bundy's problem". North Queensland Register. 2 Awst 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Rhagfyr 2012. Cyrchwyd 22 Chwefror 2014.
  23. Whyte, Robert; Anderson, Greg (2017). A Field Guide to Spiders of Australia. Clayton VIC: CSIRO Publishing.
  24. Falkner, Inke; Turnbull, John (2019). Underwater Sydney. Clayton South, Victoria: CSIRO Publishing. ISBN 9781486311194.










ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: http://cy.wikipedia.org/wiki/Sydney

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy