Torra d'Albu
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ogliastro |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Cyfesurynnau | 42.8081°N 9.33389°E |
Statws treftadaeth | heneb hanesyddol cofrestredig |
Manylion | |
Mae Tŵr Albu (Corseg: Torra d'Albu) yn dŵr Genoa adfeiliedig sydd wedi ei leoli yn commune Ogliastro (Haute-Corse) ar orllewin arfordir y Cap Corse ar ynys Corsica.
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae'r tŵr yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a tua 1620 i atal ymosodiadau gan y môr-ladron Barbari. Cafodd y tŵr ei ddifrodi ym 1588 pan ymosododd Hassan Veneziano ar bentref cyfagos, Ogliastro, a chipio nifer o'r pentrefwyr.[1] Mae rhestr o'r tyrau amddiffynnol arfordir Corsica a luniwyd gan awdurdodau Genoa ym 1617 yn cofnodi bod y tŵr yn cael ei warchod gan ddynion o bentrefi Ogliastro a Olcani, ond dim ond yn ystod y nos.[2]
Ym 1992 cafodd y tŵr ei restru fel un o henebion hanesyddol Ffrainc.[3]
Mae gan y tŵr nifer o enwau eraill: Torra di Ogliastro, Torra dOlcini a Torre del Greco
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. t. 90. ISBN 2-84050-167-8.
- ↑ Graziani, Antoine-Marie (1992). Les Tours Littorales. Ajaccio, France: Alain Piazzola. t. 136, no. 68. ISBN 2-907161-06-7.
- ↑ "Monuments historiques: Tour d'Albo, dite aussi d'Olchini ou del Greco". Ministère de la culture. Cyrchwyd 4 May 2014..
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- "Albo : Présentation". I Torregiani. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 18 May 2014.
- Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-11. Cyrchwyd 2018-07-29. Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.