Torra di Capriona
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Cyfesurynnau | 41.71°N 8.79°E |
Mae Tŵr Capriona neu Dŵr Porto Pollo (Corseg:Torra di Capriona) yn dŵr Genoa adfeiliedig wedi ei leoli yn commune Serra-di-Ferro ger pentref Porto Pollo ar arfordir gorllewinol ynys Corsica. Dim ond rhan o'r sylfaen sydd wedi goroesi.
Adeiladwyd y tŵr yn ail hanner yr 16 ganrif. Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[1] Mae'r tŵr yn sefyll ar fryn sydd â threm dros Porto Pollo. Mae rhan uchaf y tŵr wedi'i ddinistrio'n llwyr a'r unig beth sydd ar ôl yw ychydig o waliau'r sylfaen wedi eu gorchuddio a llystyfiant. Yn wreiddiol roedd y waliau yn frics coch wedi'u plastro â chalch.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-11. Cyrchwyd 2018-07-31. Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.