Torra di Fornali
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Corsica Ffrainc |
Cyfesurynnau | 42.69°N 9.28°E |
Mae Tŵr Fornali (Corseg: Torra di Fornali, Ffrangeg: Tour de Formali) yn dŵr Genoa adfeiliedig yng Corsica, wedi ei leoli yn commune Saint-Florent.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd y tŵr yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[2] Cynlluniwyd deg tŵr o'r fath i amddiffyn Saint Florent, ond nid chafodd pob un ohonynt eu hadeiladu, ac o'r rheini a chafodd eu hadeiladu nid oes un ohonynt sydd wedi eu hadfer. Dim ond y rhan isaf o'r tŵr a grisiau carreg a arferai roi mynediad i'r ail lawr sydd wedi goroesi
Bu ymladd am feddiant y tŵr yn ystod Gwarchae Saint-Florent ym 1794. Roedd y gwarchae yn weithrediad milwrol gan lynges Prydain, gyda chymorth rhai o frodorion Corsica fel rhan o ymateb Prydain i'r Chwyldro Ffrengig.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Galeri
[golygu | golygu cod]-
Gwarchae Saint-Florent
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.corse.culture.gouv.fr/monuments/actions_crmh/carte_tours.gif, archived at archive.is
- ↑ Graziani, Antoine-Marie (2000). "Les ouvrages de défense en Corse contre les Turcs (1530-1650)". In Vergé-Franceschi, Michel; Graziani, Antoine-Marie (gol.). La guerre de course en Méditerranée (1515-1830). Paris: Presses de l'Université Paris IV-Sorbonne. tt. 73–144. ISBN 2-84050-167-8.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Nivaggioni, Mathieu; Verges, Jean-Marie. "Les Tours Génoises Corses".[dolen farw] Sy'n cynnwys gwybodaeth ar sut i gyrraedd 90 o dyrau a llawer o ffotograffau.
- Tour de Fornali - taith YouTube o amgylch yr olion