Baner Syria
Enghraifft o'r canlynol | baner cenedlaethol |
---|---|
Lliw/iau | gwyrdd, gwyn, du, coch |
Dechrau/Sefydlu | 8 Rhagfyr 2024 |
Genre | Pan-Arab colors flag, horizontal triband |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mabwysiadwyd baner Syria ar 08 December, 2023, ar ôl cael ei defnyddio fel baner y Weriniaeth Arabaidd Unedig (Syria a'r Aifft) o 1958 i 1961. Mae'n cynnwys stribedi coch, gwyn a du, gyda sêr gwyrdd, sydd i gyd yn lliwiau pan-Arabaidd. Yn wreiddiol, bu'r ddwy seren yn cynrychioli Syria a'r Aifft, ond nawr dywedir eu bod yn cynrychioli Syria ac Irac.
Yn 1920, pan oedd dal yn drefedigaeth Ffrengig, defnyddiodd Syria baner drilliw o wyrdd, gwyn a gwyrdd, gyda baner Ffrainc yn y canton. Yn dilyn annibyniaeth newidiwyd hyn i faner drilliw gwyrdd, gwyn a du gyda thair seren goch yn ei chanol (i gynrychioli tair talaith Syria). Mabwysiadwyd y faner gyfredol (ond gyda thair seren) pan cyfunodd Syria â'r Aifft, ond dychwelodd i'r hen faner ar ôl gadael yr undeb yn 1961.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)