Content-Length: 100376 | pFad | https://cy.wikipedia.org/wiki/Canfyddiad

Canfyddiad - Wicipedia Neidio i'r cynnwys

Canfyddiad

Oddi ar Wicipedia
Canfyddiad
Enghraifft o'r canlynolcore concept, arbenigedd, maes astudiaeth Edit this on Wikidata
Mathproses meddyliol, interpretation Edit this on Wikidata
Rhan otermau seicoleg, awareness, recognition Edit this on Wikidata
Yn cynnwyssensation Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Trefnu, cydnabod, a dehongli gwybodaeth synhwyraidd er mwyn cynrychioli a deall ein hamgylchedd yw canfyddiad.[1] Proses ffisiolegol yw canfyddiad yn y bôn, ond mae ganddo oblygiadau pwysig i athroniaeth a seicoleg.[2][3]

Wrth ganfod yr amgylchedd, rydym yn dewis, trefnu, dehongli, ac weithiau'n camlunio'r symbylyddion o'n cwmpas. Trawsnewidir y wybodaeth synhwyraidd yn actifedd nerfgelloedd a drosglwyddir i'r ymennydd i'w brosesu. Felly, nid yw'r byd go iawn o reidrwydd yn unfath â'r byd rydym yn ei ganfod.[4] Awgrymodd Hermann von Helmholtz taw proses bur wybyddol yw canfyddiad sy'n gwneud casgliadau ar sail signalau synhwyraidd annigonol.[5]

Mae'r athronydd yn dadansoddi canfyddiad yn nhermau ei werth epistemolegol fel ffynhonnell am fodolaeth a phriodweddau'r byd o'n cwmpas. Honna ambell athronydd taw gwirionedd llwyr empiraidd yw canfyddiad, a bod profiadau neu ganfodiadau yn eu hanfod yn ddetholiad o realiti. Mae camganfyddiadau, megis rhithwelediadau, yn drysu'r ddamcaniaeth hon, ac mae'r ddadl ar saith rhith yn ceisio dadbrofi'r syniad o realiti canfyddiad. Yn ôl damcaniaethau eraill, mae'r canfod yn ddisgrifiad neu'n hypothesis o'r byd gwrthrychol ac felly perthynas anuniongyrchol sydd rhwng canfyddiad a realiti. Awgrymir bod ein holl ganfyddiadau o bosib yn annibynadwy, er enghraifft o ganlyniad i dueddiadau a chamsyniadau.[6] Ymhlith y damcaniaethau penodol sy'n gosod y cwestiynau hyn yn ganolog iddynt mae ffurfiau ar realaeth uniongyrchol megis y ddamcaniaeth synnwyr cyffredin, y ddamcaniaeth achos, realaeth feirniadol, y ddamcaniaeth synnwyr-data, a ffenomeniaeth.[7]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "canfyddiad Archifwyd 2017-07-29 yn y Peiriant Wayback", Termau ar wefan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Adalwyd ar 12 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) perception. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ionawr 2017.
  3. (Saesneg) "Perception" yn yr International Encyclopedia of the Social Sciences (Thomson Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 10 Ionawr 2017.
  4. (Saesneg) "Perception" yn The Gale Encyclopedia of Science (The Gale Group, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 10 Ionawr 2017.
  5. (Saesneg) "Perception" yn The Oxford Companion to the Body (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2001). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 10 Ionawr 2017.
  6. Alan Bullock ac Oliver Stallybrass (gol.) The Fontana Dictionary of Modern Thought (Fontana/Collins, 1977), t. 463.
  7. (Saesneg) "Perception" yn yr Encyclopedia of Philosophy (Thomson Gale, 2006). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 10 Ionawr 2017.








ApplySandwichStrip

pFad - (p)hone/(F)rame/(a)nonymizer/(d)eclutterfier!      Saves Data!


--- a PPN by Garber Painting Akron. With Image Size Reduction included!

Fetched URL: https://cy.wikipedia.org/wiki/Canfyddiad

Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy