Geni'r Iesu
Enghraifft o'r canlynol | digwyddiad, stori Feiblaidd, geni plentyn, thema mewn celf |
---|---|
Rhan o | cronoleg bywyd yr Iesu, y pum dirgel llawenydd |
Dechrau/Sefydlu | 1 Ionawr 1406 |
Yn cynnwys | addoliad y bugeiliaid, Addoliad y Doethion, Genedigaeth wyryfol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Geni'r Iesu yn cyfeirio at hanes genedigaeth Iesu Grist, wedi'i seilio'n bennaf ar yr hanes a gofnodwyd yn Efengyl Mathew ac Efengyl Luc, yr unig ddau efengyl yn y Beibl sy'n cyfeirio at enedigaeth Iesu o gwbl. I Gristnogion, mae'r hanes hwn yn sail i stori'r Nadolig.
Yr Hanes yn yr Efengylau
[golygu | golygu cod]Mae Mathew a Luc yn cyfeirio at eni Iesu ym Methlehem Jwdea, a hynny i wyryf, sef Mair, Mair Forwyn fel y'i gelwir yn gyffredin. Daw llawer o stori'r Nadolig o Efengyl Luc, sy'n adrodd hanes Joseff a Mair yn teithio o Nasareth i Fethlehem i gofrestru mewn cyfrifiad o Ymerodraeth Rhufain a alwyd gan Gesar Awgwstws. Genir Iesu, ei rwymo mewn cadachau, a'i osod mewn preseb, gan nad oedd lle iddynt yn y llety. Gerllaw mae bugeiliaid yn gwarchod eu praidd liw nos, pan ddaw angel i gyhoeddi "newydd da am lawenydd mawr" gan gyhoeddi bod baban wedi ei eni ac mai ef yw'r Gwaredwr, y Meseia, yr Arglwydd. Ar ôl clywed yr angel, mae'r bugeiliaid yn mynd i ymweld â'r baban a'i rieni, gan ailadrodd yr hyn a glywsant.
Mae Efengyl Mathew yn cyfeirio at ddoethion o'r dwyrain, sy'n gweld seren brenin yr Iddewon yn yr awyr, ac yn dod i Jerwsalem i chwilio am y baban er mwyn ei addoli. Maent yn dilyn y seren ac ar ôl cyrraedd Iesu ym Methlehem, tref Dafydd, maent yn syrthio o'i flaen i'w addoli ac yn rhoi tri anrheg iddo, aur a thus a myrr.
Wedi clywed bod y doethion yn galw Iesu yn frenin yr Iddewon, mae Herod, brenin Jwdea, yn rhoi gorchymyn i ladd pob bachgen ym Methlehem o dan ddwy flwydd oed. Erbyn hynny, fodd bynnag, mae Joseff a Mair a'r baban Iesu wedi dianc i'r Aifft yn dilyn breuddwyd yn eu rhybuddio, cyn dychwelyd yn y pen draw i Nasareth.
Dadansoddiad hanesyddol
[golygu | golygu cod]Y dybiaeth draddodiadol i Gristnogion oedd mai Gair Duw oedd hanes Iesu Grist yn yr Efengylau, ac felly bod hanes y Geni fel y caiff ei adrodd yn y Testament Newydd yn hanesyddol ffeithiol gywir. I ysgolheigion cyfoes, fodd bynnag, mae'r hanes fel y'i cofnodwyd gan Mathew a Luc yn destun cryn drafodaeth. Yn un peth, noda rhai nad yw'r hanes yn y ddau Efengyl yn cyd-fynd â'i gilydd, ac mae rhai ysgolheigion o'r farn nad oes sail hanesyddol i lawer o'r straeon.[1][2] I lawer o ysgolheigion, dogfennau diwynyddol yw'r Efengylau, ac felly ni fyddai pwyslais yr awduron ar gywirdeb a threfn hanesyddol y straeon.[3][4][5] Fodd bynnag, mae rhai ysgolheigion Cristnogol yn dadlau bod y safbwynt Cristnogol traddodiadol yn bosibl, bod yr hanes yn yr Efengylau yn hanesyddol gywir ac nad yw Luc a Mathew yn gwrth-ddweud ei gilydd.[6]
Celf a cherddoriaeth
[golygu | golygu cod]Drama'r Geni
[golygu | golygu cod]Mae "ail-greu" hanes geni'r Iesu ar ffurf drama yn gyffredin fel rhan o ddathliadau'r Nadolig, yn bennaf gan blant ysgol Sul a phlant yn gyffredinol mewn cyngherddau Nadolig ysgolion. Fel arfer bydd drama'r geni yn gyfuniad o sawl stori unigol yn y Testament Newydd, ac mae angylion, bugeiliaid a doethion yn sefyll o gwmpas y preseb gyda'i gilydd yn addoli'r baban Iesu yn ddarlun cyffredin iawn yn hynny o beth.
Caneuon
[golygu | golygu cod]Dethlir geni'r Iesu mewn nifer o garolau'r Nadolig, megis I Orwedd Mewn Preseb.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Gospel of Matthew gan Daniel J. Harrington 1991 ISBN 0814658032 tudalen 47
- ↑ Jeremy Corley New Perspectives on the Nativity, Continuum International Publishing Group, 2009 tudalen 22.
- ↑ Interpreting Gospel Narratives: Scenes, People, and Theology gan Timothy Wiarda 2010 ISBN 0805448438 tudalennau 75-78
- ↑ Jesus, the Christ: Contemporary Perspectives gan Brennan R. Hill 2004 ISBN 1585953032 tudalen 89
- ↑ Recovering Jesus: the witness of the New Testament Thomas R. Yoder Neufeld 2007 ISBN 1587432021 tudalen 111
- ↑ Mark D. Roberts Can We Trust the Gospels?: Investigating the Reliability of Matthew, Mark, Luke and John Good News Publishers, 2007 tudalen 102
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Beibl.net — y Testmant Newydd mewn Cymraeg llafar syml