Neidio i'r cynnwys

Agnes Miegel

Oddi ar Wicipedia
Agnes Miegel
Ganwyd9 Mawrth 1879 Edit this on Wikidata
Königsberg Edit this on Wikidata
Bu farw27 Hydref 1964, 26 Hydref 1964 Edit this on Wikidata
Bad Salzuflen Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethnewyddiadurwr, bardd, llenor Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Goethe, gwobr llenyddiaeth academi y celfyddydau cainBafaria, Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth, Q1389779, Gwobr Kleist Edit this on Wikidata

Awdures a bardd Almaenig oedd Agnes Miegel (9 Mawrth 1879 - 26 Hydref 1964) sy'n cael ei hystyried hefyd yn nodigedig am ei gwaith fel awdur storiau byrion am Ddwyrain Prwsia a newyddiadurwr a gefnogai'r Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol, sef y blaid a ddaeth dan arweiniaeth Adolf Hitler i gynrychioli Natsïaeth ar ei ffurf waethaf.

Fe'i ganed yn Königsberg (Kaliningrad, Rwsia erbyn heddiw) ar 9 Mawrth 1879 a bu farw yn Bad Salzuflen.[1][2][3][4]

Magwraeth

[golygu | golygu cod]

Masnachwyr oedd gwaith ei theulu, a phrotestaniaid o ran crefydd. Ei rhieni oedd Gustav Adolf Miegel a Helene Hofer.

Aeth Miegel i Ysgol Uwchradd y Merched yn Königsberg ac yna bu'n byw rhwng 1894 ac 1896 mewn tŷ-gwestai yn Weimar, lle ysgrifennodd ei cherddi cyntaf. Yn 1898 treuliodd dri mis ym Mharis ac yn 1900 hyfforddodd fel nyrs mewn ysbyty plant yn Berlin. Rhwng 1902 a 1904 gweithiodd fel athrawes gynorthwyol mewn ysgol breswyl i ferched ym Mryste, Lloegr. Yn 1904 mynychodd goleg hyfforddi athrawon yn Berlin, ond ni orffennodd y cwrs oherwydd salwch. Ni chwblhaodd gwrs mewn coleg amaethyddol i ferched ger Munich ychwaith ac yn 1906 bu'n rhaid iddi ddychwelyd i Königsberg i ofalu am ei rhieni sâl, yn enwedig ei thad, a oedd wedi colli ei olwg. Bu farw ei mam yn 1913, ei thad yn 1917. [5]

Awdures ei chyfnod

[golygu | golygu cod]
Cerflun o Agnes-Miegel-Denkmal yn Bad Nenndorf

Mor gynnar â 1900 roedd ei chyhoeddiadau cyntaf wedi tynnu sylw'r awdur Börries von Münchhausen. Cyhoeddwyd ei blodeugerdd o gerddi cyntaf diolch i'w gefnogaeth ariannol a bu'n gefnogwr ac yn hyrwyddwr diflino iddi am flynyddoedd.

Bu'n byw yn Königsberg tan ychydig cyn i'r dref gael ei chipio yn 1945, ac ysgrifennodd gerddi, straeon byrion ac adroddiadau newyddiadurol. Yn ystod y Trydydd Reich datgelodd ei bod yn gefnogwr brwd o'r gyfundrefn honno. Llofnododd y Gellgschaft Gelöbnis treuester yn 1933, sef datganiad lle roedd 88 o awduron Almaenig yn addo teyrngarwch ffyddlon i Adolf Hitler.[6] Yn yr un flwyddyn ymunodd â'r NS-Frauenschaft, adain y merched yn y Blaid Natsïaidd. Yn 1940 ymunodd â'r blaid Natsïaidd ei hun. Yn Awst 1944, yng nghamau olaf yr Ail Ryfel Byd, cafodd ei henwi gan Adolf Hitler fel "ased cenedlaethol eithriadol" yn rhestr arbennig yr artistiaid Almaeneg pwysicaf a ryddhawyd o bob rhwymedigaeth rhyfel.[7]

Yn Chwefror 1945 ffodd ar long, rhag y Fyddin Goch, wrth iddynt agosáu, a chyrhaeddodd Denmarc. Ar ôl rhyddhau Denmarc oddi wrth yr Alaen ar 5 Mai 1945 arhosodd yng Ngwersyll Ffoaduriaid Oksbøl tan fis Tachwedd 1946. Yn 1946 dychwelodd i'r Almaen, lle'r oedd dan waharddiad rhag cyhoeddi, tan 1949.

Cafodd dŷ yn Bad Nenndorf, lle ysgrifennodd nes iddi farw. Roedd Agnes Miegel yn ysgrifennu cerddi a straeon byrion am Ddwyrain Prwsia, tir ei hieuenctid. Cafodd ei hystyried yn llais yr 'Heimatvertriebene', y bobl Almaenaidd a oedd wedi byw cyn y rhyfel yn Tsiecoslofacia a Gwlad Pwyl ac mewn rhannau o'r Almaen a oedd wedi'u hatodi gan Wlad Pwyl a'r Undeb Sofietaidd ar ôl y rhyfel, pobl a oedd yn gorfod gadael pan orchfygwyd yr Almaen Natsïaidd. Derbyniodd Miegel y teitl anrhydeddus Mutter Ostpreußen ("Mam Dwyrain-Prwsia") gan ei hedmygwyr.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Die Kogge am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Goethe (1940), gwobr llenyddiaeth academi y celfyddydau cainBafaria (1959), Medal Goethe ar gyfer Celf a Gwyddoniaeth (1932), Q1389779, Gwobr Kleist (1916)[8] .

Cyhoeddiadau

[golygu | golygu cod]
  • 1901: Gedichte, Cotta, Stuttgart.
  • 1907: Balladen und Lieder, Eugen Diederichs, Jena.
  • 1920: Gedichte und Spiele, Eugen Diederichs, Jena.
  • 1925: Heimat: Lieder und Balladen, Eichblatt, Leipzig.
  • 1926: Geschichten aus Alt-Preußen, Eugen Diederichs, Jena.
  • 1926: Die schöne Malone: Erzählungen, Eichblatt, Leipzig.
  • 1927: Spiele, Eugen Diederichs, Jena.
  • 1928: Die Auferstehung des Cyriakus: Erzählungen, Eichblatt, Leipzig.
  • 1930: Kinderland: Erzählungen, Eichblatt, Leipzig.
  • 1931: Dorothee: Erzählungen, Gräfe und Unzer, Königsberg yn Preußen.
  • 1932: Der Vater: Erzählungen, Eckhart, Berlin.
  • 1932: Herbstgesang: Gedichte, Eugen Diederichs, Jena.
  • 1933: Weihnachtsspiel, Gräfe und Unzer, Königsberg yn Preußen.
  • 1933: Kirchen im Ordensland: Gedichte, Gräfe und Unzer, Königsberg yn Preußen.
  • 1934: Gang yn die Dämmerung: Erzählungen, Eugen Diederichs, Jena.
  • 1935: Das alte und das neue Königsberg, Gräfe und Unzer, Königsberg yn Preußen.
  • 1935: Deutsche Balladen, Eugen Diederichs, Jena.
  • 1936: Unter hellem Himmel: Erzählungen, Eugen Diederichs, Jena.
  • 1936: Kathrinchen kommt nach Hause: Erzählungen, Eichblatt, Leipzig.
  • 1936: Noras Schicksal: Erzählungen, Gräfe und Unzer, Königsberg yn Preußen.
  • 1937: Das Bernsteinherz: Erzählungen, Reclam, Leipzig.
  • 1937: Audhumla: Erzählungen, Gräfe und Unzer, Königsberg yn Preußen.
  • 1937: Herden der Heimat: Erzählungen mit Zeichnungen von Hans Peters, Gräfe und Unzer, Königsberg yn Preußen.
  • 1938: Und die geduldige Demut der treuesten Freunde: Versdichtung, Bücher der Rose, Langewiesche-Brandt, Schäftlarn.
  • 1938: Viktoria: Gedicht und Erzählung, Gesellschaft der Freunde der deutschen Bücherei, Ebenhausen.
  • 1939: Frühe Gedichte, Cotta, Stuttgart.
  • 1939: Herbstgesang, Eugen Diederichs, Jena.
  • 1939: Die Schlacht von Rudau: Spiel, Gräfe und Unzer, Königsberg yn Preußen.
  • 1939: Herbstabend: Erzählung, Eisenach.
  • 1940: Ostland: Gedichte, Eugen Diederichs, Jena.
  • 1940: Im Ostwind: Erzählungen, Eugen Diederichs, Jena.
  • 1940: Wunderliches Weben: Erzählungen, Gräfe und Unzer, Königsberg yn Preußen.
  • 1940: Ordensdome, Gräfe und Unzer, Königsberg yn Preußen.
  • 1944: Mein Bernsteinland und meine Stadt, Gräfe und Unzer, Königsberg yn Preußen.
  • 1949: Du aber bleibst yn mir: Gedichte, Seifert, Hameln.
  • 1949: Die Blume der Götter: Erzählungen, Eugen Diederichs, Köln.
  • 1951: Der Federball: Erzählungen, Eugen Diederichs, Köln.
  • 1951: Die Meinen: Erzählungen, Eugen Diederichs, Köln.
  • 1958: Truso: Erzählungen, Eugen Diederichs, Köln.
  • 1959: Mein Weihnachtsbuch: Gedichte und Erzählungen, Eugen Diederichs, Köln (cyhoeddiad newydd 1984).
  • 1962: Heimkehr: Erzählungen, Eugen Diederichs, Köln.

Casgliadau

[golygu | golygu cod]
  • 1927: Gesammelte Gedichte, Eugen Diederichs, Jena.
  • 1952: Ausgewählte Gedichte, Eugen Diederichs, Köln.
  • 1952-1955: Gesammelte Werke, Eugen Diederichs, Köln.
  • 1983: Es war ein Land: Gedichte und Geschichten aus Ostpreußen, Eugen Diederichs, München (ailgyhoeddwyd gan Rautenberg, Leer yn 2002).
  • 1994: Spaziergänge einer Ostpreußin, Rautenberg, Leer (1923-1924).
  • 2000: Wie ich zu meiner Heimat stehe, Verlag S. Bublies, Schnellbach (journalism 1926-1932).
  • 2002: Die Frauen von Nidden: Gesammelte Gedichte von unserer ‘Mutter Ostpreußen’, Rautenberg, Leer.
  • 2002: Wie Bernstein leuchtend auf der Lebenswaage: Gesammelte Balladen, Rautenberg, Leer.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 5 Gorffennaf 2024.
  2. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 "Agnes Miegel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Agnes Miegel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Agnes Miegel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Agnes Miegel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Agnes Miegel". "Agnes Miegel". "Agnes Miegel". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.muenster.de/stadt/strassennamen/agnes-miegel-strasse.html.
  3. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 9 Ebrill 2014 "Agnes Miegel".
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014 https://www.muenster.de/stadt/strassennamen/agnes-miegel-strasse.html.
  5. Anrhydeddau: http://www.sn-online.de/Schaumburg/Nenndorf/Links/PDF/Nazi-Ehrungen-im-3.-Reich.
  6. Ernst Klee: Das Kulturlexikon zum Dritten Reich. Wer war was vor und nach 1945, Edition Fischer, Frankfurt am Main, 2009, tt. 369-370.
  7. Oliver Rathkolb: Führertreu und gottbegnadet. Künstlereliten im Dritten Reich, Österreichischer Bundesverlag, Wien 1991, ISBN 3-215-07490-7, tud. 176.
  8. http://www.sn-online.de/Schaumburg/Nenndorf/Links/PDF/Nazi-Ehrungen-im-3.-Reich.
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy