Neidio i'r cynnwys

BBC One

Oddi ar Wicipedia

BBC One (neu BBC1 fel y’i hadwaenid gynt) ydy prif sianel deledu y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig. Cafodd ei lansio fel Gwasanaeth Teledu’r BBC ar 2 Tachwedd, 1936 a’r sianel oedd system darlledu cyhoeddus rheolaidd cyntaf y byd, er i’r BBC ddechrau darlledu teledu trwy sawl fformat ers 1929.

Roedd monopoli gan y sianel ar ddarlledu teledu yn y Deyrnas Unedig nes i orsaf gyntaf ITV gael ei lansio yn 1955. Mae BBC One yn dal i fod yn un o brif sianeli teledu Prydain sy'n cynnig amrywiaeth eang o newyddion a materion cyfoes, rhaglenni comedi, drama, gêmau, rhaglenni siarad, gwasanaeth i blant a sylw i’r celfyddydau ynghyd â rhai rhaglenni addysgol a chrefyddol.

Eginyn erthygl sydd uchod am deledu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
pFad - Phonifier reborn

Pfad - The Proxy pFad of © 2024 Garber Painting. All rights reserved.

Note: This service is not intended for secure transactions such as banking, social media, email, or purchasing. Use at your own risk. We assume no liability whatsoever for broken pages.


Alternative Proxies:

Alternative Proxy

pFad Proxy

pFad v3 Proxy

pFad v4 Proxy